Chwaraeon Cymru’n cynnig hwb ariannol i gael mwy o bobl i ymddiddori mewn busnes ac i ymddiddori mewn chwaraeon
Ydych chi wedi breuddwydio erioed am fod y Syr Terry Matthews
nesaf, yn berchen ar eich cwrs golff pencampwriaeth; y Duncan
Bannatyne nesaf, yn rhedeg eich cadwyn chi eich hun o gyfleusterau
hamdden llwyddiannus neu ddim ond wedi gweld bwlch yn y farchnad y
byddech wrth eich bodd yn ei lenwi?
Wel, dyma'ch
cyfle.
Mewn ymgais i gael pob plentyn yng Nghymru i wirioni ar
chwaraeon am oes a chreu cenedl o bencampwyr chwaraeon, mae
Chwaraeon Cymru wedi ymuno â chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol
Gleision Caerdydd a Chymru, Rhys Williams, sydd bellach yn ddyn
busnes llwyddiannus, i annog pobl yng Nghymru i ddechrau meddwl am
chwaraeon fel busnes.
Gyda hyd at £25,000 yn cael ei gynnig i gychwyn prosiectau a
denu pobl at chwaraeon, mae Chwaraeon Cymru'n treialu'r prosiect yn
ne ddwyrain y wlad ac yn chwilio am syniadau busnes blaengar a fydd
yn chwarae rhan mewn cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon yn y
gymuned.
Meddai Tom Overton, Rheolwr Rhanbarthol Chwaraeon Cymru yn Ne
Ddwyrain Cymru:
"O agor cyfleuster newydd ar garreg eich drws i sefydlu clwb
chwaraeon newydd neu gynnig dosbarth ymarfer newydd, rydym yn
chwilio am bobl sydd eisoes yn teimlo'n angerddol dros chwaraeon ac
sydd eisiau eu gwneud yn fwy na dim ond hobi.
"Rydym eisiau gweld chwaraeon yn dod yn rhan annatod o fywyd bob
dydd yng Nghymru ac er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni ein
herio ein hunain i feddwl yn fwy creadigol a blaengar am sut maent
yn cael eu trefnu a'u cyflwyno ar hyn o bryd. Bydd y dull hwn o
weithredu nid yn unig yn ceisio ac yn croesawu ffyrdd newydd o
gynnwys a chynnal diddordeb cymunedau mewn chwaraeon ond hefyd bydd
yn chwarae ei ran mewn helpu i yrru economi Cymru yn ei blaen."
Mae Rhys Williams wedi llwyddo i wneud y newid o'r byd chwaraeon
i fyd busnes ac mae'n awyddus i bobl fynegi'r syniadau sydd
ganddynt:
"Gall cymryd y cam cyntaf yna ar yr ystol ac i mewn i fyd busnes
godi ofn ar rywun yn ariannol ond gyda'r cyfle o gefnogaeth gan
Chwaraeon Cymru, byddwn yn argymell yn gryf bod unrhyw un sydd wedi
bod yn meddwl am syniad a allai gynyddu cyfranogiad pobl yn eu
cymuned yn ei
fynegi.
"Mae gan unrhyw un botensial i fod yn entrepreneur Chwaraeon
Cymru; y cyfan sydd ei angen yw penderfyniad, angerdd dros
chwaraeon a syniad cynaliadwy a fydd yn cael pobl i gymryd
rhan."
Ac mae Rebecca Hosken o Capital Gymnastics yn esiampl berffaith
o sut all mentro weithio, a gweithio'n
dda.
Wedi iddi wneud cais am fuddsoddiad o £20k gan Chwaraeon Cymru i
sicrhau uned ddiwydiannol segur ger Pont Elái yng Nghaerdydd, a
phrynu offer ar ei chyfer, mae'r clwb wedi mynd o nerth i nerth ac
wedi cynyddu nifer y cyfranogwyr o 77 i fwy na 400 mewn dim ond 10
mis.
Mae rhaglen weithgarwch newydd wedi cael ei datblygu a nawr
mae'n cynnwys dosbarthiadau cyn-ysgol, sydd o gymorth mawr i leihau
nifer y plant ar restri aros ledled Caerdydd tra hefyd yn cael mwy
o blant i gymryd rhan mewn gymnasteg. Mae dosbarthiadau hamdden a
dechreuwyr yn cael eu cynnal bum noson yr wythnos ac yn ystod y
penwythnos yn awr ac mae dosbarthiadau oedolion yn cael eu cynnig
hefyd bellach.
Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i'r clwb ac erbyn diwedd ei
ail flwyddyn, y gobaith yw y bydd mwy na 650 o blant ac oedolion yn
cymryd rhan yn y
gamp.
Ac nid dim ond pobl yn y gymuned sy'n cael eu hannog i fynegi eu
syniadau; mae Chwaraeon Cymru wedi ymuno â thair prifysgol
allweddol yng Nghymru i gynnig i'w myfyrwyr gyfle i gipio dyfarniad
ariannol a gwireddu eu syniadau
busnes.
Gyda chynigion yn arddull Dragon's Den ar y gweill ar gyfer yn
nes ymlaen yn y flwyddyn, bydd Prifysgol Morgannwg, APCC a
Phrifysgol Cymru, Casnewydd i gyd yn derbyn cronfa ariannol o
£5,000 i'w buddsoddi yn y myfyrwyr hynny gyda syniad busnes
ymarferol a fydd yn cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon.
Tynnwyd sylw at rôl allweddol entrepreneuriaid a phwysigrwydd
meithrin yr agwedd o 'allu gwneud' nôl ym mis Tachwedd gan
Weinidogion yn lansiad Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid
Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n ceisio ysbrydoli'r genhedlaeth
nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru ac mae XX yn cefnogi'r fenter
hon gan Chwaraeon Cymru:
"Quote from WAG."
Os oes gennych chi syniad gwych a allai wneud i Gymru symud,
cysylltwch â thîm rhanbarthol Chwaraeon Cymru yn y De Ddwyrain yn
awr ar 0845 045 0904.