Cofrestr chwaraeon ar agor i ysgolion Cymru
Wrth i bobl ar hyd a lled y byd aros i glywed a ydynt wedi
sicrhau tocynnau ar gyfer Llundain 2012, gall ysgolion yng Nghymru
warantu cyfran i'w disgyblion nhw.
Drwy gofrestru gyda rhwydwaith 'Get Set' ledled y DU, bydd yr
ysgolion yn cael cyfran o docynnau'n awtomatig i ddigwyddiadau yn y
Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Bydd cyfanswm o 50,000 o docynnau'n cael eu dosbarthu i ysgolion
ar hyd a lled y DU (yn ogystal â neilltuad i ysgolion yn
Llundain).
Get Set
yw rhaglen addysgol swyddogol Llundain 2012 ar gyfer ysgolion a
cholegau ledled y DU.
Gyda'r broses ymgeisio syml ar agor yn awr, gall ysgolion a
cholegau sy'n dangos eu bod yn defnyddio gwerthoedd Olympaidd a
Pharalympaidd i wella eu cwricwlwm wneud cais am ymuno â'r
rhwydwaith.
Unwaith y bydd yr ysgolion wedi cofrestru, byddant yn cael
cyfleoedd unigryw a chyfle i gymryd rhan mewn mentrau yn ystod y
cyfnod yn arwain at y Gemau, a gallai hynny gynnwys ymweliadau gan
athletwyr neu deithiau o amgylch y Parc Olympaidd.
Hefyd, gall athrawon a myfyrwyr wneud defnydd o adnoddau am ddim
fel ffilmiau a lluniau, a gallant gymryd rhan mewn cystadlaethau
hefyd.
"Mae bod yn rhan o Lundain 2012 yn gyfle cwbl unigryw ac
yn un rydym am weld pobl ifanc Cymru'n bod yn rhan ohono,"
meddai'r Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru.
"Mae'n gyfrwng arall i Gemau Llundain 2012 adael
treftadaeth addysgol, ddiwylliannol a chymdeithasol
barhaus.
"Mae cael gwarant o gyfran o'r tocynnau i'r ysgolion yn
gymhelliant
enfawr.
"Yr uchelgais yw cael pob ysgol yng Nghymru i gofrestru
- mae'n broses mor
syml.
"Gallwn helpu i greu cymuned chwaraeon arbennig rhwng
ysgolion yng Nghymru a thu hwnt."
Cwblheir y broses mewn dwy ran. Mae'r ysgolion yn cofrestru ar y
rhwydwaith i ddechrau ac yna'n cymryd y cam cofrestru nesaf i
dderbyn eu gwobrau.
I ymuno â'r rhwydwaith, dim ond ateb tri chwestiwn sydd raid i'r
ymgeiswyr:
- Pam mae eisiau ymuno?
- Beth maent wedi'i wneud eisoes i ymrwymo i werthoedd Olympaidd
a Pharalympaidd?
- Beth maent yn fwriadu ei wneud yn y dyfodol?
Anogir yr ysgolion sydd wedi cofrestru, ond sydd heb gymryd y
cam nesaf i ymuno, i gwblhau eu cais cyn y dyddiad cau, sef mis
Rhagfyr
2011.
Mae athrawon neu Lysgenhadon Ieuainc Aur penodol yr
Ymddiriedolaeth Chwaraeon ar gyfer Ieuenctid yn yr ysgol yn gallu
cyflwyno'r cais ar ran yr
ysgol.
Byddwch yn rhan o'r rhwydwaith nawr - ewch i www.london2012.com/getset.