Sport Wales aims to galvanise 10% of Welsh adults to get
involved in sport coaching and volunteering by 2016 - doubling the
current number of coaches and volunteers to an all time high of
nearly 250,000.
Mae'n nod gan Chwaraeon Cymru i ddenu 10% o boblogaeth Cymru i
ymwneud â hyfforddi chwaraeon a gwirfoddoli mewn chwaraeon erbyn
2016 - gan ddyblu'r nifer presennol o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr i
fod yn uwch nag erioed - bron i 250,000.
Dylai'r addewid yma alluogi pob unigolyn sy'n cymryd rhan mewn
chwaraeon yng Nghymru i gael sylw gan hyfforddwr gyda sgiliau
priodol, yn ôl y cynlluniau uchelgeisiol sydd wedi'u datgan gan
Chwaraeon Cymru fel rhan o'r ymdrechion parhaus i gael pob plentyn
i wirioni ar chwaraeon am oes a chreu cenedl o bencampwyr.
Dim ond rhai yw'r rhain o blith y dyheadau sydd wedi'u
hamlinellu mewn Strategaeth Hyfforddi chwe blynedd a gafodd ei
lansio gan y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones AC, yng
Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai yng Nghaernarfon
heddiw.
Strategaeth gymeradwy Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yw
canolbwynt yr £1 miliwn ychwanegol o gyllid LlCC sydd wedi'i addo
ar gyfer hyfforddi, cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth. Mae hynny'n
mynd â buddsoddiad hyfforddi blynyddol Chwaraeon Cymru i fwy na £5
miliwn.
Y nodau allweddol yn Strategaeth Hyfforddi Chwaraeon Cymru
yw:
· 10% o oedolion Cymru'n ymwneud â hyfforddi a
gwirfoddoli
· Pob hyfforddwr â chymwysterau priodol
· 100% o'r hyfforddwyr wedi'u hyfforddi i fod
yn weithredol[1]
· Pob hyfforddwr yng Nghymru i gael ei
werthfawrogi, gyda chyfleoedd i ddatblygu fel mae'n dymuno.
Meddai Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllister:
"Rydym yn credu y bydd y strategaeth hon yn arwain at sicrhau
bod hyfforddwr gyda sgiliau priodol ar gael i roi sylw i bob
cyfranogwr mewn chwaraeon sydd eisiau derbyn hyfforddiant.
"Gweledigaeth Chwaraeon Cymru yw uno cenedl sy'n caru'r campau
a'n nod yw cynyddu gweithgarwch corfforol a gwella safonau
perfformiad. Rydym hefyd eisiau gweld pob plentyn yn gwirioni ar
chwaraeon am oes a Chymru'n dod yn genedl o bencampwyr.
"Mae gan hyfforddi rôl allweddol i'w chwarae er mwyn cyflawni
hyn, o gefnogi athletwyr elitaidd i ragori ar lwyfan y byd i annog
cymunedau lleol i fod yn fwy heini a mwynhau chwaraeon; mae
hyfforddwyr yn darparu'r ysbrydoliaeth a'r gefnogaeth ymarferol i
sicrhau bod Cymru ar symud."
Meddai'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, "Mae hyfforddwyr
a gwirfoddolwyr yn gwbl allweddol mewn chwaraeon o bob math. Maent
yn gwneud gwahaniaeth mawr a does dim dwywaith ein bod angen rhagor
yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni gynyddu eu niferoedd a'u cefnogi'n
briodol os ydym am fod yn genedl chwaraeon iachach a mwy
llwyddiannus.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan ein hyfforddwyr gymwysterau
priodol a'u bod yn gallu gweithio gyda phlant yn ogystal ag
athletwyr elitaidd; drwy gyfrwng ein dwy iaith genedlaethol ac ym
mhob un o'n cymunedau ar hyd a lled Cymru.
"Rwy'n croesawu ac yn cymeradwyo uchelgais a dyheadau Chwaraeon
Cymru ar gyfer hyfforddi yng Nghymru. Mae'r strategaeth hon yn
darparu cyfeiriad a ffocws clir ar gyfer ein holl ymdrechion i greu
system hyfforddi lwyddiannus ac effeithiol."
Mae pump y cant (113,000) o oedolion Cymru'n rhoi eu hamser ar
hyn o bryd i hyfforddi neu wirfoddoli mewn chwaraeon. Mae Chwaraeon
Cymru wedi rhoi nod iddo'i hun o ddyblu'r ffigwr hwnnw bron i
250,000 a byddai hynny'n cyfateb i 10% o boblogaeth gyfredol
Cymru'n cynorthwyo ar y llinell ochr ac wrth ymyl y pwll ar hyd a
lled y wlad.
Meddai McAllister: "Rydym angen mwy o hyfforddwyr a
gwirfoddolwyr. Mae pump y cant yn dda ond os ydym am weld pob
plentyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon, yna dydi hyn ddim digon
da.
"Ac nid dim ond y nifer sy'n allweddol chwaith. Mae'n rhaid i ni
sicrhau bod yr hyfforddwyr yn cael eu defnyddio yn y mannau iawn
a'n bod yn eu cadw yn y system. Yn allweddol, rydym angen cefnogi
eu datblygiad parhaus a meithrin diwylliant sy'n cydnabod ac yn
gwerthfawrogi gwaith pwysig hyfforddwyr a gwirfoddolwyr mewn
chwaraeon."
Mae'r Strategaeth Chwaraeon yn cefnogi Strategaeth Chwaraeon
Elitaidd Chwaraeon Cymru, a lansiwyd fis Mehefin ac sy'n pennu
targedau uchelgeisiol ar gyfer ennill medalau yn ystod y chwe
blynedd nesaf. Mae hefyd yn cyd-fynd â Creu Cymru Egnïol
gan LlCC a Fframwaith Hyfforddi'r DG, sy'n cefnogi'r
ymgyrch i ddenu mwy o hyfforddwyr a gwell hyfforddwyr.
Mae Chwaraeon Cymru'n disgwyl llawer o ddiddordeb mewn chwaraeon
yn dilyn Gemau Olympaidd Llundain 2012 a Gemau Cymanwlad Glasgow
2014 ac mae'n cymryd camau yn awr i sicrhau bod digon o hyfforddwyr
gyda chymwysterau priodol ar gael i fodloni'r galw am gyfranogiad
yng Nghymru.
Mae hyfforddwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn ganolbwynt i ymgyrch
Tu Ôl i Bob Seren Chwaraeon Cymru, sy'n dathlu'r gwaith
caled a'r ymroddiad y mae hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar hyd a lled
y wlad yn ei gyfrannu at y byd chwaraeon.
Mewn ymgais i ysbrydoli pobl Cymru i chwarae eu rhan, trodd y
ffotograffydd llwyddiannus, Terry Morris, ei sylw at y byd
chwaraeon gan dynnu lluniau un ar ddeg o arwyr chwaraeon Cymru ar
hyn o bryd gydag un o'u hyfforddwyr mwyaf dylanwadol hyd yma.
Bydd ail ran yr ymgyrch yn canolbwyntio ar recriwtio
gwirfoddolwyr a hyfforddwyr, gan annog ac ysbrydoli oedolion ar hyd
a lled Cymru i gymryd rhan yn eu timau chwaraeon lleol. Mae
Chwaraeon Cymru'n annog pobl i gofrestru i wirfoddoli yn www.tuolibobseren.org.uk.
Bydd yr arddangosfa ffotograffig deithiol yn cael ei harddangos
ym Mhlas Menai tan 14 Medi, cyn symud ymlaen i Gampws Siopa Eagles
Meadow yn Wrecsam ar 24 a 25 Medi ac yna gorffen yng Nghanolfan
Siopa Festival Park, Blaenau Gwent ar 29 a 30 Hydref.
1 Mae
hyfforddwyr gweithredol yn disgrifio'r hyfforddwyr sy'n cyflwyno
hyfforddiant i gyfranogwyr