Eisiau cael eich ysbrydoli? Darllenwch stori Mark Colbourne
Os ydych chi angen ysbrydoliaeth, does dim rhaid chwilio
ymhellach na Mark Colbourne. Torrodd ei gefn ym mis Mai 2009 mewn
damwain wrth baragleidio. Ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach,
enillodd y gŵr 41 oed fedal arian ym Mhencampwriaethau Parafeicio
Ffordd y Byd.
Dyma stori
Mark:
Digwyddodd y ddamwain ar yr 2il o Fai 2009 ar Draeth
Rhosili ar Benrhyn Gŵyr. Digwyddodd y ddamwain wrth i wynt croes
blygu'r canopi 40 troedfedd uwch ben y ddaear.
Roeddwn i'n gwbl ymwybodol o'r foment y dechreuais i syrthio i'r
foment pan drewais i'r ddaear. Llenwodd y canopi â gwynt wedyn a
chefais fy llusgo ar hyd y ddaear am ryw 80 metr. Roeddwn i'n
teimlo fel doli glwt mewn peiriant
golchi.
Pan wnes i stopio yn y diwedd, sylweddolais nad oeddwn i'n gallu
symud fy nghoesau. Doeddwn i ddim yn gallu eistedd i fyny. Felly
roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi eu torri nhw - neu waeth fyth hyd
yn oed. Y peth rhyfeddol oedd nad oeddwn i mewn unrhyw boen, achos
roeddwn i wedi cael fy mharlysu'n llwyr.
Galwyd am Ambiwlans Awyr Cymru ac fe wnaethon' nhw fy ngosod i'n
ofalus ac yn gwbl sefydlog ar fwrdd
sbinol.
Cefais fy nghludo i Ysbyty Treforys. Arhosais yno dros nos ac
yna cefais fy symud i Ysbyty'r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd am
lawdriniaeth ar asgwrn fy nghefn. Gosodwyd pinnau yn asgwrn fy
nghefn. Roeddwn i wedi torri'r fertebra T12 yng nghanol fy
nghefn.
Cefais wybod pa mor ddrwg oedd fy anafiadau i y noson honno ac
fe feddyliais i: 'Wel, dyna ni. Dyma ddiwedd fy mywyd i.'
Er hynny, roedd yn ddechrau ar bennod gwbl newydd yn fy hanes
...
Am y pedwar mis cyntaf yn Ysbyty Rookwood, roeddwn i'n gorwedd
ar wastad fy nghefn yn fy ngwely, ac yna symudais i gadair olwyn a
chael llawer o ffisiotherapi. Wedyn cefais fy rhoi ar y fframiau
cerdded. Roeddwn yn gwella'n raddol bach. Roedd golau ym mhen
draw'r
twnnel.
Tra oeddwn i'n Rookwood, fe wnes i gyfarfod Anthony Hughes o Chwaraeon Anabledd
Cymru ac fe wnes i feddwl y gallai chwaraeon fod yn gyfle i mi,
yn ddrysau newydd yn agor i mi efallai. Dangosodd Anthony i mi
faint o chwaraeon y gallwn i gymryd rhan ynddyn nhw. Sylweddolais
bod digon o gyfleoedd i bobl fel fi oedd wedi cael damweiniau
difrifol neu salwch
dwys.
Y peth gwaethaf yn y byd a all ddigwydd i chi yw pan mae
rhywbeth yn cael ei ddwyn oddi arnoch chi a does gennych chi ddim
rheolaeth drosto. Mae'n anodd canolbwyntio ar unrhyw beth
cadarnhaol. Fe wnes i roi cynngi ar rwyfo, saethu a beicio - unrhyw
beth i dynnu fy meddwl i oddi ar yr anabledd yma oedd ddim yn mynd
i newid.
Ond
does dim rhaid i fywyd ddod i ben.
Gadewais yr ysbyty ym mis Medi 2009 ac yna fe es i gwrdd â Neil
Smith yn y Felodrom yng Nghasnewydd. Dechreuais ar raglen hyfforddi
a theimlais bryd hynny fy mod i'n dychwelyd i fod yn aelod o
gymdeithas eto. Ym mis Mai 2010, cymerais ran yn fy ras gyntaf.
Grand Prix Cymru oedd y ras - ras trac - ac enillais ddau fedal
aur, yn y treialon amser 1km ac yn y gweithgaredd 3km. Er nad oedd
yr amser yn dda iawn o edrych yn ôl nawr - roedd yn anhygoel i
mi.Wedi blwyddyn hir o adfer, yn gwbl annisgwyl, roeddwn i ar
linell gychwyn mewn cystadleuaeth feicio a oedd yn pennu safleoedd
byd!
Yna treuliais aeaf 2010 yng Nghreta ac fe wnes i gryfhau,
cyflymu a cholli pwysau yno. Newidiais i gêr
uwch!
Fe wnes i hedfan yn ôl gartref ar 1af Mai a chwe
diwrnod yn ddiweddarach roeddwn i'n rasio yn Doncaster. Fe wnes i
sicrhau amser a oedd ymhlith y pump uchaf yn y byd a sylweddolais
bod gen i botensial i rasio ar lefel ryngwladol. Dyma gysylltu â
Beicio Prydain a chafwyd ymateb cadarnhaol - roedden nhw wedi
penderfynu rhoi cyfle i mi.
Lai na dwy flynedd wedi dechrau reidio beic unwaith eto, roeddwn
i'n gwisgo siwmper PF ac roeddwn i wedi ennill medal efydd mewn
cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Sbaen. Ac yna enillais fedal arian yng
Nghanada.
Wedi 18 mis o baratoi a llawer iawn o waith caled, roedd y
darnau'n dechrau disgyn i'w lle.
Mae'n swreal - dydi llinynnau'r gar ddim yn gweithio gen i! Does
gen i ddim symudiad yn fy nhraed nac yn y cyhyrau sydd gen i yn fy
mhen ôl, ond rydw i'n dal i allu gweithio'r cyhyrau pedryben ac
rydw i wedi gweld fy mod i'n gallu reidio beic mewn gwirionedd
hefyd!
Wedi
dioddef damwain angheuol bron, roedd ennill arian a dod yn 4ydd ym
Mhencampwriaethau Parafeicio Ffordd y Byd yn wireddu breuddwyd i
mi.
Gallaf ddechrau edrych ymlaen at lwyfan mwy Llundain 2012 yn
awr.Rydw i wedi magu llawer o hyder yn ystod fy nhymor eleni, yn
enwedig gan mai dim ond dwy flynedd a hanner sydd ers i mi gael fy
llawdriniaeth. Er hynny, dydw i ddim am fynd dros ben llestri - mae
gen i raglen o hyfforddiant trac a rasio dros y gaeaf cyn
hynny!
Fe hoffai Mark ddiolch i'r canlynol:
- Diolch anferth i Neil Smith yn y Felodrom yng Nghasnewydd ac i
Anthony Hughes am sylwi ar fy sgiliau i mewn chwaraeon
amrywiol.
- Oni bai am Ambiwlans Awyr Cymru, efallai na fyddwn i'n cerdded
gyda ffyn hyd yn oed yn awr, nac yn cystadlu mewn unrhyw
gampau.
- Fy ffrindiau a'm teulu - fy rhieni a fy merch Jessica.
- Y staff yn Rookwood - mae'n lle ffenomenal i adfer. Fe
wnaethon' nhw fy helpu i drwy gyfnod gwaethaf fy mywyd i.
- Staff Ysbyty'r Mynydd Bychan a'r llawfeddyg sydd wedi gwneud
gwaith rhagorol ar fy nghefn i.
- Beicio Prydain a Beicio
Cymru am roi'r cyfle yma i mi.