Gowers yn arwain hwylwyr un cam yn nes at Lundain 2012
Gyda blwyddyn i fynd tan Gemau Olympaidd Llundain 2012,
mae Chwaraeon Cymru yn amlygu athletwyr a hyfforddwyr mwyaf addawol
Cymru a fydd yn cystadlu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o
athletwyr i gael blas am chwaraeon.
Chris Gowers, 43 oed, yw Prif Hyfforddwr tîm hwylio PF
Skandia. Daw'r cyn hwyliwr Olympaidd hwn sydd â phrofiad
helaeth, ac sydd bellach yn hyfforddwr, yn wreiddiol o Southmead
ond mae'n byw yn Y Felinheli ar hyn o bryd. Nid oes llawer o
bobl yn gwybod hynny.
Treuliodd Gowers gyfnod
byr yn gweithio yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Dŵr Plas
Menai yng Nghaernarfon yn ôl yn 1992 ac fel y dywed e, 'dw i ddim
wedi gadael eto.' Er hynny, mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn
Academi Hwylio Weymouth a Portland, sy'n digwydd bod yn lleoliad
hwylio Gemau Olympaidd Llundain 2012.
A bydd pawb yn troi eu golygon at Weymouth ar gyfer Regata
Ryngwladol Weymouth a Portland o 31 Gorffennaf tan 13 Awst. Bydd y
regata'n Ddigwyddiad Prawf Olympaidd swyddogol ar gyfer 2011 -
'cyfle i roi cynnig arni' fel y dywed Gowers - er mwyn i hwylwyr
Tîm PF (gan gynnwys Hannah Mills o Gymru yn Nosbarth 470) ddiogelu
eu lleoedd yn nhîm Gemau Olympaidd.
Dywedodd Gowers: "Rydym bob amser yn cynnal regata brawf
flwyddyn cyn gemau Olympaidd. Wedi i'r digwyddiad prawf ddod i ben,
yn sydyn iawn mae'n galed iawn anwybyddu'r ffaith bod y gemau
Olympaidd ar y ffordd. Rydym yn gobeithio gwneud yn dda (yn y
digwyddiad prawf) ond ein blaenoriaeth yw dysgu cymaint â phosibl
am sut y caiff y regata ei chynnal y flwyddyn nesaf. Dros y chwe
mis nesaf byddwn yn dewis y tîm ac yna'n gweithio'n galed i ehangu
ein gwybodaeth i sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau
posibl."
Ychwanegodd: "Dylai cynnal y rasys Olympaidd yma yn Weymouth roi
ychydig o fantais i ni. Ond os edrychwch ar faint o amser y mae
gwledydd eraill yn ei dreulio yn hyn o beth, yna mae'r posbilrwydd
yn pylu gan ein bod yn disgwyl i oddeutu 57 o wledydd gystadlu yn y
Digwyddiad Prawf Olympaidd yn unig. Ar y llaw arall, bydd angen i
ni ymdrin â'r diddordeb mawr gan y cyfryngau, felly mae manteision
ac anfanteision."
Ar ôl blynyddoedd o aros, ac ers i Lundain lwyddo yn ei hymgais
i gynnal y Gemau Olympaidd yn ôl yn 2005, mae'r aros bron â bod
drosodd. Roedd dydd Llun 25 Gorffennaf yn nodi blwyddyn yn union
hyd nes y bydd digwyddiad cyntaf Llundain 2012 yn dechrau gyda
phêl-droed i fenywod yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd ac dydd Mercher
27 Gorffennaf yn cyd-daro â'r Seremoni Agoriadol yn y Parc
Olympaidd.
Mae Gemau Olympaidd cyntaf Prydain er 1948 eisoes wedi dechrau
dal dychymyg y genedl ac mae Chwaraeon Cymru yn gobeithio y bydd y
cyffro hwnnw'n arwain at ysbrydoli mwy o bobl, yn enwedig pobl
ifanc, i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol gogledd Cymru Chwaraeon Cymru,
Graham Williams: "Mae'n hollbwysig ein bod yn amlygu llwyddiannau
ein hathletwyr elitaidd gorau o'r ardal, fel Chris, i annog mwy o
blant a phobl ifanc i gael blas am chwaraeon am oes.
"Gan fod blwyddyn i fynd tan gemau Llundain 2012, mae hwn yn
gyfle euraidd i ysbrydoli, nid yn unig cannoedd yn fwy, ond miloedd
o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon. Gobeithio y gall Chris lywio
ei hwylwyr at lwyddiant yn Llundain ac rydym am adeiladu ar y
ffactor cadarnhaol hwnnw i ysbrydoli cenedl o bencampwyr yma yng
Nghymru."
Ychwanega Gowers: "Ein gobaith yw y bydd Llundain 2012 yn
sbarduno pobl i roi cynnig ar hwylio a chael blas amdano am oes.
Mae Cymdeithas Hwylio Cymru yn defnyddio Pwllheli cryn dipyn ar
gyfer cystadlaethau ac maent wedi'i hawgrymu fel lleoliad
hyfforddiant Olympaidd. Felly dylai'r ganolfan honno ei hun gynnig
hyfforddiant gwell ar gyfer rasys i athletwyr elitaidd brwd
gan gynyddu cyfranogiad yn gyffredinol, gobeithio.