Grym chwaraeon yn arwain at fywyd yn y lôn gyflym
Fe fyddai bywyd yn llawer iawn arafach yn sicr i James Ledger
a'i deulu oni bai am
chwaraeon.
Dydi'r bachgen dwy ar bymtheg oed hynod gyflym o Dreforys ddim
yn aros yn llonydd am yn hir iawn - boed ar y trac neu ar ei
deithiau o un dinas i'r llall ac o un gwlad i'r
nesaf.
Wedi'i eni gyda nam prin iawn sy'n golygu bod cyfyngiadau ar ei
olwg yn ei ddwy lygad, mae ei coloboma dwyochrog wedi peri i
strwythurau llygad James fethu datblygu'n llawn ac mae'r bylchau o
ganlyniad yn golygu nad yw hyd yn oed yn gallu gweld y nodweddion
ar wyneb pobl sy'n sefyll yn agos iawn
ato.
Ond ei allu ar y trac a'r cae sydd wedi galluogi
James i deithio'r byd, wedi meithrin hyder ynddo ac wedi gwneud
iddo roi targed iddo'i hun o sicrhau lle yn y Gemau
Paralympaidd.
Dim ond ar siawns y cafodd ei botensial ei ganfod, pan
benderfynodd ymuno â Chlwb Athletau Harriers Abertawe er mwyn
gwella ei gyflymdra sbrintio er lles ei bêl droed.
"Roeddwn i wedi bod yn chwarae pêl droed prif ffrwd er
pan yn chwech oed," meddai James. "Wedi bod â nam
ar fy ngolwg ers i mi gael fy ngeni, rwy'n credu bod pêl droed wedi
rhoi cyfle i mi ddysgu sgiliau corfforol ac wedi meithrin hyder
ynof i yn sicr - nid dim ond mewn chwaraeon, ond yn yr ysgol hefyd
ac wrth wneud pethau o ddydd i ddydd."
"Ond fe welais i 'mod i'n dal yn ôl braidd, a ddim
eisiau gwneud camgymeriad wrth chwarae i dîm.
"Yn 2006, ymunais â Chlwb Pêl Droed Abertawe i
Chwaraewyr â Nam ar y Golwg (yr unig dîm pêl droed i bobl â nam ar
y golwg yng Nghymru), ac fe wnaeth hynny fy ngwthio ymlaen. Roeddwn
i'n herio pobl ac yn chwarae'n dda iawn yn y gemau. Roeddwn i
eisiau gwella ac felly roeddwn i'n meddwl y byddai bod yn sbrintiwr
gwell yn fy helpu i."
Yn 13 oed, mynychodd James ei sesiynau cyntaf gyda'r Harriers, a
sylwyd ar ei gyflymdra ar unwaith.
Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn cystadlu mewn sbrintiau mewn
cystadlaethau dros 60, 100 a 200 metr (categori B2 T12), ac yn y
naid hir (categori F12).
Yn fuan iawn, cafodd gynnig cyfle i ymarfer â'r academi enwog
sy'n cael ei rhedeg gan Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru
(FfChAC) - 'ffatri' chwaraeon newydd Cymru ar gyfer enillwyr
medalau.
Ac mae'n profi i fod yn un arall o lwyddiannau'r llinell
gynhyrchu arbennig honno, yn ennill gwobrau lu.
Ymhlith ei lwyddiannau mae medal aur yn y 200m yng Ngemau
Ysgolion y DG yn 2009 (dan 17) a medal aur yn Her Llwyddiant
Cyfochrog 2010 Aviva (hŷn).
Ond ei ganlyniad mwyaf nodedig o bosibl yw ennill medal arian yn
y naid hir yng Ngemau Ieuenctid y Byd y Ffederasiwn Rhyngwladol ar
gyfer Chwaraeon y Deillion yn 2009, a dod yn 7fed yn
rownd derfynol y 100m.
Mae hynny'n nodedig am fod y gystadleuaeth ar gyfer athletwyr o
bob cwr o'r byd sy'n 19 oed ac iau. Dim ond 16 oed oedd James yn
cystadlu.
Bydd yn cael cyfle arall ar yr un trac yn Colorado Springs fis
Gorffennaf (13-18) eleni pan fydd yn cystadlu yn fest Prydain Fawr
fel rhan o sgwad sydd wedi'i enwi fel un â photensial i gyrraedd y
brig.
I James, mae ei ddatblygiad ar y trac wedi bod law yn llaw â'i
ddatblygiad oddi arno.
"Mae chwaraeon wedi gwneud gwahaniaeth mawr i 'mywyd
i," meddai'r disgybl o Ysgol Esgob Vaughan. "Mae
wedi rhoi annibyniaeth i mi ac rwy'n teimlo fy mod i'n gallu
cymysgu'n dda gyda phobl nawr. Mae athletau'n gamp gymdeithasol
iawn ac rwy'n credu fy mod i wedi elwa o hynny.
"Rydw i eisiau aros yn y byd chwaraeon yn y dyfodol.
Rydw i'n gwneud fy lefel A yn awr ac rydw i wedi cael lle yn APCC i
astudio am radd mewn datblygiad chwaraeon, os caf y graddau
priodol.
"Os yn bosibl, fe hoffwn i weithio gydag ieuenctid
anabl, a'u hysbrydoli nhw gobeithio, a rhoi cefnogaeth a
hyfforddiant penodol iawn iddyn nhw, yn seiliedig ar fy mhrofiadau
i fy hun.
"Mae fy ffrindiau'n mynd i'w partïon a'u nosweithiau
allan ac rydw i'n mwynhau fy mywyd cymdeithasol, ond maen nhw'n fy
nhrin i'n grêt, heb roi unrhyw bwysau arna' i i wneud yr un peth.
Maen nhw'n gwybod fy mod i'n ymarfer llawer ac yn ofalus iawn o'm
deiet. Rydw i'n meddwl eu bod nhw i gyd eisiau fy nghefnogi i
gymaint ag y gallan' nhw."
Mae ei amserlen ymarfer ddwys yn orlawn bob wythnos, wrth iddo
dreulio ei nosweithiau Llun yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd
(APCC), pob nos Fawrth yn y gym, pob nos Iau yn ymarfer dygnedd
sbrint ac ymarfer naid hir ar ddydd Sadwrn. Byddai astudio yn APCC
yn ei gwneud yn haws i James wneud defnydd o'i hyfforddwr
perfformiad gydag Athletau Cymru, Darrell Maynard, a
FfChAC.
Gyda'i deulu y tu cefn iddo yn ei gefnogi i sicrhau clod
rhyngwladol iddo'i hun, mae ei dad, Richard, yn ymwybodol iawn o
waith caled James wrth iddo baratoi, a hefyd o'r cyfleoedd sydd
wedi dod i'w ran drwy gyfrwng
athletau.
"Mae angen llawer iawn o ymrwymiad ac ymroddiad gan
James i gystadlu ar lefel mor uchel," meddai.
"Rydyn ni'n teithio ledled y DG, i Lundain un wythnos
efallai, ac yna Loughborough y nesaf ac yna Leeds yr wythnos
ganlynol.
"Ond mae hefyd wedi rhoi cyfle i James deithio i wahanol
wledydd i gystadlu neu i fynychu gwersylloedd hyfforddi tywydd
cynnes ym Mhortiwgal.
"Fe es i i UDA yn gwmni iddo a does dim dwywaith ein bod
ni wedi cyfarfod â phobl wych iawn yno ac wedi gwneud llawer iawn o
ffrindiau.
"Mae'r teulu a'i ffrindiau i gyd mor falch o'r hyn mae e
wedi'i gyflawni a'r ffordd mae'n edrych ar ôl ei hun.
"Mae'n gallu bod yn anodd yn aml iawn i ieuenctid gyda
anabledd deimlo eu bod yn cael eu derbyn yn gymdeithasol ac fe all
hynny fod yn broblem go iawn ar adegau. Ond mae cymryd rhan mewn
chwaraeon a sicrhau llwyddiant yn y maes hwnnw'n golygu nad yw
hynny'n wir am James.
"Yn ogystal â chyflawni'n bersonol, mae sefydliadau fel
FfChAC ac Athletau'r DG yn darparu cefnogaeth hanfodol iddo ar
gyfer cystadlu."
http://www.youtube.com/watch?v=CY1NTMN5OTw&feature=channel_video_title
Am ragor o wybodaeth am Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru,
cysylltwch â: www.disabilitysportwales.com.