Gwobr ariannol i Prizefighter

Mae cartref i focswyr o'r safon uchaf yng Nghaerfyrddin yn gobeithio profi'n lleoliad sy'n taro deuddeg ymhlith cyfranogwyr ifanc addawol.                 

Mae'r Prizefighter Gym, sy'n eiddo i enillydd tair medal yng Ngemau'r Gymanwlad, Kevin Evans, wedi derbyn grant gwerth £3,450 gan Chwaraeon Cymru er mwyn denu mwy o bobl ifanc, yn enwedig merched a genethod, i mewn drwy ei drysau.

 

Bydd y grant datblygu gan y Loteri Genedlaethol o gymorth i brynu cylch bocsio newydd arbennig, matiau a chanfas, menig, offer i warchod y pen, bagiau a phadiau.

 

News-Latest-Kevin Evans GymMae'n golygu bod y clwb yn mynd i allu darparu sesiynau ar gyfer bechgyn a merched yn awr, i fodloni'r galw cynyddol.

Agorwyd y gym gan y bocsiwr enwog, Evans (yn y llun), yn 2007 ac mae wedi denu aelodau o Aberystwyth ac Abertawe yn ogystal ag o bob cwr o Sir Gaerfyrddin.

 

Enillodd Kevin Evans dair medal Cymanwlad yn ystod ei yrfa - arian ym Melbourne ac efydd ym Malaysia ac ym Manceinion - a hefyd medal efydd yn 1999 ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Texas.

 

Fis Medi, enillodd ei nai, Calum Evans - aelod o'r cyfleuster yng Nghaerfyrddin - fedal arian yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad ar Ynys Manaw.             

 

"Mae hwn yn gam arall i ni wrth i ni wella'r hyn rydym ni'n ei gynnig yn y gym," meddai Evans.

 

"Mae'n golygu rhagor o offer ar gyfer y rhai sydd eisiau dod i mewn ac ymarfer ac fe allwn ni gynnig lle i fwy o bobl ar yr un pryd.

 

"Rydym ni wedi gwneud ymrwymiad i geisio denu mwy o ieuenctid drwy'r drws - dyna oedd un o'r gobeithion pan agorais i'r gym i ddechrau. Os gallaf i ennyn mwy o ddiddordeb mewn bocsio ymhlith ieuenctid, a chynhyrchu bocswyr da ar yr un pryd, bydd hwn yn gam mawr ymlaen tuag at yr hyn roeddwn i eisiau ei gyflawni."

Carwyn Young yw Uwch Swyddog Rhanbarthol Chwaraeon Cymru yn Sir Gaerfyrddin a gweithiodd gyda Kevin ar y cais llwyddiannus am grant. Meddai:                  

"Y gwaith y mae Kevin yn ei wneud er mwyn cynyddu mynediad a chyfranogiad yn y gym yw'r union beth rydym ni'n chwilio amdano.  

"Yn y gorffennol, roedd yr offer a'r cyfleusterau yn ddigonol i anghenion y clwb ond, wrth iddo dyfu, felly hefyd yr angen am offer. Mae hwn yn gynnydd naturiol yn natblygiad y clwb, oherwydd ei lwyddiant.   

"Mae'n cael llwyddiant wrth gynhyrchu bocswyr o safon uchel ac rydym yn gobeithio y bydd cael mwy o bobl yn bocsio yn helpu i sicrhau ei fod yn dal ati i wneud hyn.

"Mae bocsio yn gamp sydd bob amser yn boblogaidd ymhlith y cyhoedd. Nawr, mae mwy a mwy o bobl yn mynychu cyfleusterau lleol er mwyn rhoi cynnig arni."

Am ragor o wybodaeth am grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon yng Nghymru, ewch i www.chwaraeoncymru.org.uk.