Hyfforddwr pencampwr byd yn cipio teitl Cymru

Wedi sicrhau teitl a record byd eisoes eleni i athletwr sy'n gobeithio ennill lle yn Llundain 2012, heddiw, mae hyfforddwr chwaraeon anabledd wedi ychwanegu teitl Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru at ei restr o lwyddiannau.

Wedi ennill clod am ddatblygu academi enwog Chwaraeon Anabledd Cymru a chreu byddin o athletwyr elitaidd, mae Anthony Hughes o Benarth wedi helpu i wneud Cymru yn un o'r gwledydd mwyaf llwyddiannus, bunt-am-bunt, mewn     para-chwaraeon ar lwyfan y byd.COY 2011 Anthony with Minister Huw Lewis
Ym Mhencampwriaethau Athletau Hŷn y Byd a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (PPRh) yn Seland Newydd fis Ionawr 2011, wedi perfformiadau arbennig iawn gan athletwyr Cymru, daethant adref gyda 18% o gasgliad medalau Prydain Fawr.

Enillodd ei seren ifanc, Nathan Stephens, fedal aur yn nosbarth F57 y gwaywffon, cafodd Aled-Sion Davies fedal arian yn nosbarth F42 y discys a chafodd Kyron Duke fedal efydd yn nosbarth F40 y gwaywffon.

Fis Awst, torrodd Stephens record y byd ym Mhencampwriaeth Agored y Weriniaeth Tsiec, gan gofnodi pellter o 41.37m.
Enillodd Hughes, sy'n ddefnyddiwr cadair olwyn ei hun, yr anrhydedd yng nghategori Hyfforddwr Perfformwyr Anabl.    
      
Yn y seremoni flynyddol yng Nghaerdydd, cyflwynwyd gwobr cydnabyddiaeth arbennig i Gwyndaf Hughes, a ddaliodd ati i gyfrannu oriau ac oriau gwirfoddol i Glwb Hwylio Pwllheli bob wythnos er gwaetha'i frwydr yn erbyn canser, a llwyddodd i ennill cymhwyster uwch y Gymdeithas Iotio Frenhinol yn 71 oed.     
       
Wedi treulio mwy na 40 mlynedd yn y byd gymnasteg, derbyniodd Stuart Conner o Abertileri gydnabyddiaeth arbennig hefyd am yr oriau y mae wedi'u cyfrannu at chwaraeon ac am ei waith yn achub ei glwb pan unodd gyda chlwb arall.   
       
Ymhlith yr enillwyr eraill yn y seremoni eleni mae Malcolm Arnold, hyfforddwr y pencampwr byd, Dai Greene, a enillodd wobr Hyfforddwr Perfformiad Uchel y Flwyddyn.

Am ei waith yn ehangu'r ddarpariaeth pêl droed merched yng Nghaerffili, enillodd Stuart Robson wobr y gwirfoddolwr, a chipiodd Steven Thomas o Sir y Fflint deitl Hyfforddwr/ Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn am ei waith yn cael ieuenctid i ymwneud â Llundain 2012.

Wedi tymor llwyddiannus arall o dan do ac yn yr awyr agored, hyfforddwraig yng Nghlwb Athletau Amatur Caerdydd,  

Helen James, yw'r brif hyfforddwraig.Helen James

Aeth y brif wobr yng nghategori'r dynion i'r hyfforddwr bocsio o Gasnewydd, Tony Borg. Yn hyfforddwr clwb ar Sean McGoldrick, chwaraeodd ei ran mewn paratoi a hyfforddi Sean i gipio medal aur y Gemau'r Gymanwlad yn Delhi fis Hydref diwethaf.

Am ei waith yn datblygu hyfforddwyr newydd mewn tenis bwrdd, enillodd Ryan Jenkins o Bontypridd y tlws am Gyfraniad at Ddatblygu Hyfforddwyr.  
       
Gan bwysleisio pwysigrwydd hyfforddwyr i chwaraeon yng Nghymru, mae cyllid Llywodraeth Cymru'n helpu Chwaraeon Cymru i fuddsoddi tua £5 miliwn y flwyddyn mewn hyfforddi ar lawr gwlad ac ar lefel elitaidd.

Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Huw Lewis:

"Mae gennym ni gyfoeth o hyfforddwyr chwaraeon talentog ledled Cymru ac mae eu hymrwymiad a'u hangerdd yn helpu athletwyr o bob gallu i gyrraedd eu llawn botensial. 
   
"Mae'r hyfforddwyr ysbrydoledig hyn yn meithrin gwerthoedd y tu hwnt i ragoriaeth mewn chwaraeon, fel disgyblaeth, gwaith tîm, amynedd a gwneud eich gorau glas.   
                                    
"Boed yn hyfforddwr proffesiynol neu wirfoddol, mae eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi yn yr un modd ac rydw i'n ei theimlo hi'n fraint yn cael cydnabod eu gwaith caled a'u cyflawniadau. Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr eleni ac i bawb a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol."

Mae Chwaraeon Cymru, ochr yn ochr â'i bartneriaid, wedi ymroi i ddyblu nifer yr hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr yng Nghymru, i tua 250,000, erbyn 2016 - tua 10% o'r boblogaeth. 
  
Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllister:

"Yn ogystal â'r balchder rydw i'n ei deimlo yn gweld athletwyr a thimau Cymru'n ennill medalau a thlysau, dysgu am waith ysbrydoledig yr hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr hyn yw un o'r pethau gorau am fy rôl i yn Chwaraeon Cymru.  
         
"Wrth i ni ddal ati i sicrhau llwyddiant, ni fyddem yn gallu cyflawni unrhyw beth heb y bobl sy'n rhoi oriau ac oriau o waith bob wythnos, yn ddi-dâl yn aml, er mwyn darparu cyfleoedd a gwella ein cenhedlaeth nesaf ni o sêr.  
                  
"Mae yna hyfforddwyr a gwirfoddolwyr rywle yng Nghymru sy'n meithrin doniau'r Sam Warburton, y Gareth Bale a'r Dai Greene nesaf.

"Ond y prif beth i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yw helpu ieuenctid ac athletwyr i fod y gorau y gallan' nhw fod - ar ba lefel bynnag. Nid dim ond chwaraeon elitaidd sy'n bwysig, ond rhoi cyfleoedd i bawb. Mae ein henillwyr, a phawb a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol, yn dangos sut mae hyn yn cael ei wneud yn y byd chwaraeon yng Nghymru.

"Byddwn yn dal ati i annog, cefnogi a gwella hyfforddwyr ym mhob ffordd y gallwn ni. Mae'n rhaid i'r cyhoedd gamu ymlaen a helpu yn eu cymuned - yn enwedig gyda digwyddiadau mawr fel Llundain 2012 yn creu mwy o ddiddordeb nag erioed o'r blaen.

"Llongyfarchiadau i Anthony ac i'n holl enillwyr, ac i bawb a oedd yn y rowndiau terfynol."

I gofrestru am gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli yn y byd chwaraeon yng Nghymru, ewch i www.tuolibobseren.org.uk. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.chwaraeoncymru.org.uk.

Mae Gwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn 2011 yn cydnabod y cyflawniadau rhwng Medi 1af ac Awst 31ain 2011.


Yr Enillwyr:

Hyfforddwr y Flwyddyn - Noddwyd gan Total Teamwear

News-Latest-TotalTeamwear
 
Tony Borg (Bocsio) - Casnewydd

Tony Borg yw'r Prif Hyfforddwr yng Nghlwb Bocsio Amatur St Joseph yng Nghasnewydd, clwb sy'n mwynhau llwyddiant ysgubol ymhlith ei focswyr proffesiynol ac amatur. Gyda chymorth hyfforddwyr fel Bill Reynolds, mae Borg wedi helpu i sefydlu grŵp llwyddiannus a thalentog sydd wedi cyflawni ar lwyfan Prydain ac ar lwyfan Rhyngwladol yn ystod y 12 mis diwethaf.

Yn hyfforddwr clwb ar Sean McGoldrick, chwaraeodd ei ran yn y gwaith o'i baratoi a'i hyfforddi i ennill medal aur yn y Gemau Cymanwlad yn Delhi fis Hydref diwethaf, ac mewn sicrhau ei fod yn cael ei ddewis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2011.

Mae Borg hefyd wedi hyfforddi Fred Evans i sicrhau llwyddiant ar lefel PF. Mae Evans, sydd nawr yn rhan o raglen berfformio PF yn Sheffield, yn dal i ymarfer yn y gym yng Nghasnewydd a'r haf hwn, daeth yn un o Bencampwyr Amatur Ewropeaidd cyntaf Cymru, ochr yn ochr ag Andrew Selby.

Hyfforddwraig y Flwyddyn - Noddwyd gan Total Teamwear

News-Latest-TotalTeamwear
 
Helen James (Athletau) - Caerdydd

Mae Helen, sy'n hyfforddwraig yng Nghlwb Athletau Amatur Caerdydd, yn hyfforddi criw o 25 o athletwyr gwrywaidd a benywaidd sy'n amrywio o 11 oed i lefel hŷn, gan gystadlu yn y 100, y 200 a'r 400m.

Dan ei harweiniad, mae Gareth Hopkins, athletwr dan 23 oed, yn bencampwr 200m hŷn dan do Cymru a chafodd ei ddewis i redeg dros Gymru ar lefel hŷn dan do ac yn yr awyr agored yn 2011.

Mae hi'n mynd yr ail filltir er mwyn ei hathletwyr, gan ddarparu cefnogaeth emosiynol a chymhelliant iddynt i gyrraedd eu nodau mewn chwaraeon.

Derbyniodd Helen Aelodaeth Oes o CAA Caerdydd yn 2010 ac, eleni, mae wedi derbyn gwobr anrhydeddus gan Athletau Cymru am ei gwasanaethau i athletau.       

Gwirfoddolwr y Flwyddyn - Noddwyd gan Brand 68

Brand68
 
Stuart Robson (Pêl Droed) - Caerffili

Pan ymunodd Stuart â Chlwb Pêl Droed Merched a Genethod Castell Caerffili yn 2004, dim ond adran iau fechan ac un tîm merched oedd gan y clwb. Yn ystod y saith mlynedd ers hynny, mae Stuart wedi gweddnewid y clwb yn llwyr.

Mae'r clwb wedi tyfu i gynnwys timau ar lefel o dan 8, 10, 12, 14 ac 16 oed. Ceir hefyd dîm ieuenctid a thîm hŷn.          
     
Mae deg o chwaraewyr wedi sicrhau lle yn sgwad datblygu Cynghrair Merched De Cymru ac mae un chwaraewraig wedi cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth y gwledydd cartref.  

Mae Stuart wedi llwyddo i sicrhau cytundebau nawdd gyda busnesau lleol, sy'n amrywio o gyflenwi cit a noddi i argraffu rhaglenni'r gemau.         

Hyfforddwr y Flwyddyn Pobl Anabl y Byd Chwaraeon (Enillydd Cyffredinol) - Noddwyd gan Deloitte

News-Latest-deloitte
 
Anthony Hughes (Athletau'r Anabl) - Bro Morgannwg    

Yn Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol gyda Chwaraeon Anabledd Cymru, mae Anthony yn Brif Hyfforddwr ac yn Rheolwr Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen Athletau Anabledd Elitaidd yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol. 
                                          
Mae wedi arwain y gwaith o greu rhaglen lwyddiannus yr Academi, gan sicrhau bod Cymru, bunt-am-bunt, yn un o'r gwledydd mwyaf llwyddiannus yn y byd ym maes chwaraeon anabledd elitaidd.    
      
O blith y 31 o athletwyr o Gymru a oedd yn rhan o sgwad Prydain Fawr yng Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008, roedd naw o'r rhain yn Baralympiaid am y tro cyntaf, wedi dod drwy raglen yr Academi.  
    
Ym Mhencampwriaethau Athletau Hŷn y Byd a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (PPRh) yn Seland Newydd fis Ionawr 2011, wedi perfformiadau arbennig iawn gan athletwyr Cymru, daethant adref gyda 18% o gasgliad medalau Prydain Fawr. Daeth athletwyr Anthony gartref gyda Phencampwr Byd, Nathan Stephens (F57 Gwaywffon), medal arian i Aled-Sion Davies yn y Discys F42 a chipiodd y cyn godwr pŵer, Kyron Duke, fedal efydd yn y gwaywffon F40.          

Hyfforddwr/Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn - Noddwyd gan Uwic

News-Latest-Uwic
 
Steven Thomas (Aml-Chwaraeon) - Sir y Fflint   

Mae Steven yn gyfrifol am hybu Llundain 2012 yn lleol ac, yn unigryw i Sir y Fflint, mae ei fflam Olympaidd, sydd wedi'i chynllunio a'i chreu gan Airbus, wedi bod yn teithio ledled yr 88 o ysgolion yn Sir y Fflint i helpu i gael pobl ifanc i fod yn egnïol.      

Mae Steven yn cydlynu ei raglenni gwyliau ei hun mewn pum canolfan hamdden yn y sir. Y rhaglenni chwaraeon hyn yw'r rhai mwyaf llwyddiannus, poblogaidd a phroffidiol yn Sir y Fflint, gyda mwy na 6,000 o blant yn cymryd rhan eleni yn unig. Mae Steven yn hyfforddi unrhyw beth, o bêl droed i bêl fasged, tri-golff i rygbi tag a pholo dŵr i BMX.   
             
Mae Steven hefyd wedi ymwneud llawer â phêl droed iau. Roedd yn hyfforddwr a rheolwr gwirfoddol yng Nghlwb Pêl Droed Iau Treffynnon am chwe blynedd, gan ddechrau yn 16 oed.                                

Cyfraniad at Ddatblygu Hyfforddwyr - Noddwyd gan Sports Coach UK

News-Latest-SportsCoachUK
 
Ryan Jenkins (Tenis Bwrdd) - Pontypridd

Er bod Ryan yn cael ei gyflogi i hyfforddi chwaraewyr tenis bwrdd ar lefel elitaidd, mae ei gyfraniad at denis bwrdd yng Nghymru'n llawer mwy na dim ond hyfforddiant elitaidd.   
                         
Mae brwdfrydedd Ryan dros ei gamp, a'i ymrwymiad iddi, yn golygu ei fod yn beth prin iawn iddo gael penwythnos gartref yng Nghymru, oherwydd ei fod yn teithio o amgylch y byd drwy'r amser gyda'i chwaraewyr a'i hyfforddwyr.

Mae Ryan yn goruchwylio dau hyfforddwr datblygu rhanbarthol sy'n gweithio'n rhan ac yn llawn amser, ac mae'n darparu i'r hyfforddwyr hyn gyfarwyddyd, cyngor a gwybodaeth arbenigol, yn ogystal â strwythur rheoli i sicrhau eu bod yn cael y gorau o'u hamser hyfforddi. 
                                  
Mae Ryan yn gweithio'n agos gyda'r gweithlu o hyfforddwyr sydd wedi'u datblygu a'u hyfforddi o'r newydd, er mwyn sicrhau bod gan Gymru ei chronfa ei hun o diwtoriaid ac aseswyr i ddarparu cyfleoedd addysgu hyfforddwyr yn eu hardaloedd lleol.

Hyfforddwr Perfformiad Uchel y Flwyddyn - Noddwyd gan Gylchgrawn Sporting Wales

News-Latest-SportingWales
 
Malcolm Arnold (Athletau) - Swydd Wilt

Fel cyn Hyfforddwr Cenedlaethol Cymru a Phrif Hyfforddwr y DU, mae Malcolm wedi hyfforddi athletwyr i lefel Ewropeaidd, Byd ac Olympaidd yn gyson dros gyfnod hir o amser. Fel ffigur allweddol yn nhîm athletau Prydain Fawr ers degawdau, mae wedi helpu i siapio gyrfaoedd llawer o athletwyr uchel eu proffil, ac yn fwyaf nodedig yng Nghymru, datblygiad Colin Jackson drwy gydol ei yrfa gystadleuol i osod record Byd yn y Clwydi 110m.

Bellach mae'n hyfforddi Dai Greene ac mae'r athletwr hwn yn parhau i fod yn un o'r athletwyr o Gymru sy'n perfformio orau ar lwyfan y byd. Yn 2009, gorffennodd Dai yn 7fed ym Mhencampwriaethau Byd Berlin ac yn 2010 dychwelodd i'r pencampwriaethau hyn yn Daegu a chipio aur trawiadol.      

Mae'r cynnydd y mae Dai wedi'i wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ddyledus i sawl ffactor, gan gynnwys cefnogaeth berfformio o safon byd, rhwydwaith cefnogi ac un o'r hyfforddwyr clwydi mwyaf dylanwadol yn y byd - Malcolm Arnold.

Cydnabyddiaeth Arbennig

1. Stuart Conner (Gymnasteg) - Abertileri

Roedd 2011 yn flwyddyn chwerw felys i Stuart Conner gan mai hon oedd blwyddyn olaf ei glwb o dan yr enw Clwb Gymnasteg Abertileri.

Oherwydd bod Canolfan Fowlio Dan Do Abertileri (lle'r oedd y cyfleuster gymnasteg a adeiladwyd i bwrpas wedi'i leoli hefyd) yn mynd i gau, roedd rhaid i'r clwb ddod o hyd i eiddo newydd.   
                                                       
Er mwyn gwneud hyn yn realiti, roedd rhaid i'r clwb ymuno â chlwb lleol arall, Academi Gymnasteg y Cymoedd, er mwyn sicrhau eiddo newydd ar Stad Ddiwydiannol Croespenmaen.

Gyda photensial am wrthdaro rhwng blaenoriaethau'r ddau glwb, cadeiriodd Stuart Conner gyfarfodydd i drafod logisteg rhedeg clwb newydd ac i benderfynu pwy fyddai'n cael eu penodi i'r swyddi ar y pwyllgor. Yn ogystal â dod yn gyfarwyddwr rheoli yn y clwb a unodd o'r newydd, trefnodd hefyd i'r holl offer o Abertileri a Glynebwy gael ei gludo i Groespenmaen.

Am y deugain mlynedd diwethaf, mae Stuart wedi gwirfoddoli 20 awr yr wythnos yn gyson yn hyfforddi, ac mae hefyd wedi gwneud gwaith cynnal a chadw, tasgau gweinyddol, paratoi sesiynau, mynychu cystadlaethau, cyfarfodydd a mwy. Er gwaetha'r ffaith ei fod yn gweithio'n llawn amser fel uwch beiriannydd ac er bod ganddo deulu, nid yw ei ymrwymiad i gymnasteg wedi newid o gwbl.

Gyda'r cyfleuster newydd yn ei le, gall ganolbwyntio ei ymdrechion yn awr ar hyfforddi a sicrhau canlyniadau gwych gyda'i gymnastwyr, gan gynnwys pencampwyr niferus yn ardal y dwyrain, pencampwyr Cymru, aelodau o sgwad Cymru ac aelodau o sgwad parth Prydain.

2. Gwyndaf Hughes (Hwylio) - Pwllheli

Llwyddodd Gwyndaf Hughes i ennill cymhwyster Uwch Hyfforddwr y Gymdeithas Iotio Frenhinol y gaeaf diwethaf, yn 71 oed.          
                   
Hyd at dymor hwylio 2010, roedd wedi chwarae rhan weithredol mewn dysgu plant i hwylio.   

Ym mis Ebrill 2010, canfuwyd bod gan Gwyndaf ganser. Yn rhyfeddol, ei gwestiwn cyntaf i'r meddyg oedd a fyddai'n cael dal ati i ddysgu plant i hwylio. Yn ystod ei driniaeth, roedd Gwyndaf yn dal i fynychu'r clwb bob dydd Llun a dydd Gwener, yn cynnal a chadw'r cychod a hefyd yn gwneud yr holl waith papur.

Diolch byth, cafodd Gwyndaf wybod ei fod yn glir o ganser ym mis Tachwedd 2010 ac ailddechreuodd ar ei waith.      
                                                          
Mewn wythnos arferol, mae'n dysgu'r dechreuwyr ar ddydd Llun; ar nosweithiau Mawrth mae'n goruchwylio'r Fevas (dosbarth deuddyn iau); yna ar nos Wener mae'n hyfforddi eto. Mae nos Wener yn noson rasys fel rheol felly mae Gwyndaf naill ai ar gwch y pwyllgor neu'n hyfforddi oddi ar y dŵr. 
          
Ar ben yr holl hyfforddi ar y dŵr, mae hefyd yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o weinyddu'r adran iau ac mae'n gwneud oriau o waith gweinyddol a threfnu. 
                  
Cydnabuwyd ymdrechion ac ymrwymiad diflino Gwyndaf ym mis Tachwedd 2011 gan y Gymdeithas Iotio Frenhinol, pan dderbyniodd eu Gwobr Gymunedol anrhydeddus am ei wasanaethau i'r gamp ac i Glwb Hwylio Pwllheli.