Teuluoedd yn troi at ffitrwydd diolch i gefnogaeth Gist Gymynedol

Mae hwb ariannol gan Chwaraeon Cymru, efo cefnogaeth gan Cyngor Sir Wrecsam, yn helpu teuluoedd i gadw'n heini drwy gyfrwng chwaraeon yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Parc Caia.

Llwyddodd trefnyddion Grŵp Cefnogi Teuluoedd Parc Caia i fuddsoddi gwerth bron i £600 o gyllid y Gist Gymunedol mewn prynu offer badminton a rownderi, ac i dalu am hyfforddwr i gyflwyno sesiynau blasu wythnosol mewn dawnsio salsa.

Nod y sesiynau chwaraeon a ffitrwydd oedd rhoi hwb i hyder y teuluoedd, ac yn arbennig y mamau, ar y stad. Ni fyddent yn cymryd rhan mewn chwaraeon fel rheol.                             

Dywedodd Pat Kearsley, o Grŵp Cefnogi Teuluoedd Parc Caia: "Fe fawsom ni grant sefydlu gan Chwaraeon Cymru yn gynharach yn ystod y flwyddyn, i sefydlu sesiynau ffitrwydd, ac mae ein haelodau ni wedi bod wrth eu bodd. Mae wedi cydio fel tân gwyllt yma!

"Rydyn ni wedi cael llawer o help gan Grŵp Iechyd Parc Caia, sydd wedi sefydlu dosbarthiadau a benthyg offer i ni. Ond penderfynodd yr aelodau y byddent yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon pa bryd bynnag roeddent yn dymuno pe bai ganddynt eu hoffer eu hunain.

"Mae hwn yn rhan o becyn ehangach sy'n cynnwys dosbarthiadau coginio a maeth, i helpu i wella iechyd cymuned Parc Caia. Rydyn ni hefyd yn pwyso pawb bob wythnos, i gynnig cymhelliant ychwanegol a sicrhau elfen o gystadleuaeth.

"Rydyn ni wedi gweld rheini'n dod â'u plant hŷn gyda hwy hefyd, a doedden ni ddim wedi rhagweld hynny. Yn annisgwyl, mae ambell dad wedi dod atom ni hefyd. Felly mae dosbarth a ddechreuodd fel dosbarth ymarfer bychan preifat wedi tyfu erbyn hyn ac rydyn ni eisiau cynnal y momentwm yma."

Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol Chwaraeon Cymru, Graham Williams: "Rydyn ni'n gwybod bod chwaraeon yn gallu bod yn eithriadol fuddiol i iechyd, hyder a lles. Ein nod ni yw cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes, ac mae hynny'n dechrau gyda helpu teuluoedd yn ein cymunedau ni ledled Cymru. Rydyn ni'n falch iawn o allu cefnogi ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, fel Parc Caia, i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle teg i fwynhau chwaraeon."

Dywedodd y Cynghorydd Bob Dutton OBE, y Prif Aelod dros Gymunedau a Pherfformiad: "Rydw i wrth fy modd bod pobl Parc Caia yn elwa o gyllid y Gist Gymunedol. Mae Cyngor Wrecsam yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd i bobl fod yn egnïol yn gorfforol ac elwa o'r manteision i iechyd a lles a geir yn sgil hynny."

Cynllun grantiau gan Chwaraeon Cymru yw'r Gist Gymunedol, yn cael ei weithredu mewn partneriaeth â phob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, er budd chwaraeon cymunedol a hamdden gorfforol. Mae'n cynnig grantiau o hyd at £1500 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis ar gyfer gweithgareddau sy'n annog mwy o bobl i ddod yn fwy egnïol yn amlach ac mae'n codi safonau'r gweithgareddau presennol. 

Am mwy o wybodaeth ymwiliwch y tudalennau cyllid a cefnogaeth ar www.chwaraeoncymru.org.uk.