Tom James yn anelu at lwyddiant Olympaidd i ysbrydoli athletwyr y dyfodol

Gyda blwyddyn i fynd tan Gemau Olympaidd Llundain 2012, mae Chwaraeon Cymru yn amlygu athletwyr a hyfforddwyr mwyaf addawol Cymru a fydd yn cystadlu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr i gael blas am chwaraeon.

Mae'n bosibl mai Tom James, 27 oed, yw athletwr amlycaf gogledd Cymru ar hyn o bryd ar ôl iddo ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing bedair blynedd yn ôl yng nghystadleuaeth Pedwar heb Lywiwr y dynion.

News-Latest-TomJamesAr ôl seibiant o ddwy flynedd, i orffwys a chanolbwyntio ar ymrwymiadau eraill, mae James wedi dychwelyd i hyfforddi'n llawn ac wedi dangos ei fod yn barod iawn i gystadlu eto, a hynny am i James fod yn rhan o dîm pedwar heb lywiwr a enillodd fedal aur yng Nghwpan y Byd Lucerne yn ddiweddar.

Mae'r holl ffyrdd yn arwain at Lundain erbyn hyn ac mae James wrthi'n paratoi ar gyfer cyfle euraidd i gystadlu yn ei wlad ei hun, o flaen ei lu o gefnogwyr o Gymru a Phrydain.

Dywedodd Tom James: "Rydym wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol erbyn hyn gan fod blwyddyn i fynd tan Gemau Olympaidd Llundain 2012. Mae'n amser hynod gyffrous i mi ac athletwyr eraill Prydain gan ein bod yn edrych ymlaen at gystadlu yn ein gwlad ein hunain. Bydd y gemau hyn yn arbennig iawn, gyda chefnogaeth lawn y genedl yn rhoi hwb i ni.

"Ar ôl yr holl baratoi ers gemau Beijing, rwy'n hynod gyffrous bod y cam olaf ar y gorwel erbyn hyn a byddaf y canolbwyntio ar wneud yn siwr fy mod i'n hollol barod i gyflawni'r gamp. Rwyf bob amser yn dddiolchgar am y gefnogaeth rwy'n ei chael gan bawb yn ôl yng ngogledd Cymru a gobeithio y bydd y gemau hyn yn ysbrydoli mwy o ddarpar athletwyr o Gymru."

Ar ôl blynyddoedd o aros, ac ers i Lundain lwyddo yn ei hymgais i gynnal y Gemau Olympaidd yn ôl yn 2005, mae'r aros bron â bod drosodd. Roedd dydd Llun 25 Gorffennaf yn nodi blwyddyn yn union hyd nes y bydd digwyddiad cyntaf Llundain 2012 yn dechrau gyda phêl-droed i fenywod yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd ac dydd Mercher 27 Gorffennaf yn cyd-daro â'r Seremoni Agoriadol yn y Parc Olympaidd.

Mae Gemau Olympaidd cyntaf Prydain er 1948 eisoes wedi dechrau dal dychymyg y genedl ac mae Chwaraeon Cymru yn gobeithio y bydd y cyffro hwnnw'n arwain at ysbrydoli mwy o bobl, yn enwedig pobl ifanc, i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol gogledd Cymru Chwaraeon Cymru, Graham Williams: "Mae'n hollbwysig ein bod yn amlygu llwyddiannau ein hathletwyr elitaidd gorau o'r ardal, fel Tom, i annog mwy o blant a phobl ifanc i gael blas am chwaraeon am oes.

"Gan fod blwyddyn i fynd tan gemau Llundain 2010, mae hwn yn gyfle euraidd i ysbrydoli, nid yn unig cannoedd yn fwy, ond miloedd o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon. Gobeithio y gall Tom ailadrodd ei lwyddiant yn Beijing ac rydym am adeiladu ar y ffactor cadarnhaol hwnnw i ysbrydoli cenedl o bencampwyr yma yng Nghymru."