Ysbrydoliaeth Llundain 2012 Yn Cyrraedd Ysgol Brynhyfryd

Wythnos yma bu plant ysgol yn Rhuthun yn dathlu Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol Lloyds TSB eleni - a gynhelir rhwng 27 Mehefin a 1 Gorffennaf -  drwy bennu Gorau Personol iddyn nhw eu hunain mewn chwaraeon Olympaidd neu Baralympaidd.   

Mae disgyblion yn Ysgol Brynhyfryd wedi ymuno â bron i bum miliwn o bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn achlysur chwaraeon ysgol mwyaf erioed Prydain.

Mae Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol Lloyds TSB yn defnyddio cyffro Gemau Llundain 2012 i ysbrydoli pobl ifanc i wneud mwy o chwaraeon. Mae'r fenter, a weithredir mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon ar gyfer Ieuenctid, yn rhan o raglen addysgol Get Set+ Llundain 2012. Yn yr achlysur heddiw, gwelwyd y disgyblion yn cyrraedd eu Gorau Personol mewn ystod o chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd, yn cynnwys gymnasteg a phêl llaw. 

News-Latest-School Sport 3Cymerodd mwy na 150 o ddisgyblion Blwyddyn Chwech o'r ysgolion cynradd lleol sy'n bwydo Ysgol Brynhyfryd ran mewn gweithgareddau'n dilyn thema Llundain 2012 fel rhan o ddiwrnod pontio i ddod i arfer â bywyd yn yr ysgol uwchradd. Goruchwyliwyd y diwrnod ei hun gan 24 o fyfyrwyr chweched dosbarth, a oedd yn ceisio cyrraedd eu gorau personol nhw eu hunain, fel rhan o'u hasesiad terfynol i ddod yn Arweinwyr Chwaraeon. Drwy gydol yr wythnos, mae disgyblion Blynyddoedd 7, 8 a 9 wedi bod yn gosod gorau personol iddyn nhw eu hunain mewn ystod o gystadlaethau athletau, fel rhedeg, neidio a thaflu.
                                      
"Mae cynnal y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn y Deyrnas Unedig yn gyfle perffaith i gael pobl ifanc ledled Prydain i gyffroi ynghylch chwaraeon," meddai Robin Nash, Athro AG yn Ysgol Brynhyfryd.
 
"Mae'r syniad o bennu a chyrraedd Gorau Personol yn syniad sy'n eu herio nhw i gyrraedd a rhagori ar eu nodau, fel unigolion ac fel rhan o dîm. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn eu cymell nhw i godi'r safon yn uwch fyth, a'u hysbrydoli nhw i gyrraedd nodau chwaraeon ac academaidd newydd tra maen nhw dal yn yr ysgol."

Gyda Llundain 2012 ar y gorwel, mae gwaith ymchwil a wnaed gan Lloyds TSB* yn datgelu bod un o bob pedwar rhiant (25%) ym Mhrydain yn poeni nad yw eu plant yn ddigon egnïol. Canfu'r un arolwg bod 81% o rieni yn meddwl bod chwaraeon yn gallu chwarae rhan bwysig yn natblygiad plant, felly mae rhieni'n cael eu hannog i gefnogi'r Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol ac addo eu cefnogaeth i'w plentyn wrth iddo gymryd rhan yn ystod yr wythnos.

Meddai Sebastian Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain ar gyfer y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd: "Mae Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol Lloyds TSB yn datblygu i fod yn fwy a mwy bob blwyddyn, gyda mwy o bobl ifanc yn cael eu hannog, eu hysbrydoli a'u cymell i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwneud eu gorau ynddynt. Dyna holl nod gweledigaeth a threftadaeth Llundain 2012."

Gall rhieni'r disgyblion ysgol sy'n cymryd rhan yn yr Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol addo eu cefnogaeth i ysgol eu plentyn yn www.lloydstsb.com/nationalschoolsportweek.

Bydd yr ysgolion sy'n sicrhau'r lleiafswm o gefnogaeth sy'n ofynnol yn cael cyfle i ennill tocynnau ar gyfer Llundain 2012, neu gyfle i gludo'r Fflam Olympaidd ar Daith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012.