Partneriaid Pecyn Cymorth
Rydym eisiau i fwy o boibl wybod am eich gwaith
chi
Mae'r pecyn hwn ar gyfer clybiau, cyrff rheoli, Awdurdodau
Lleol, ysgolion ac unrhyw sefydliadau eraill sy'n gweithio mewn
partneriaeth â ac sy'n derbyn cyllid gan Chwaraeon Cymru.
Mae eich gwaith chi'n helpu Chwaraeon Cymru i adeiladu sylfeini
ar gyfer cenedl egnïol sy'n mwynhau chwaraeon.
Rydym eisiau i chi ddweud wrth bobl pwy ydych chi, beth ydych
chi'n ei wneud a sut all mwy o bobl gymryd rhan. Rydym eisiau i chi
gael y gydnabyddiaeth rydych yn ei haeddu. Trwy hynny,bydd
chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn eu tro, yn derbyn proffil
llawer uwch, fel y maent ei angen, ledled Cymru.
Mae'r pecyn hwn yn ganllaw syml, cam-wrth-gam ynghylch sut i
hybu eich prosiect. Mae'n cynnwys sut i drefnu achlysur, sut i
estyn allan at eich Aelod Cynulliad (AC) neu eich AS lleol a sut i
sicrhau sylw yn y penawdau (am y rhesymau cywir!).
Ceir hyd yn oed enghreifftiau o ddatganiadau i'r wasg a
llythyrau i'ch rhoi ar ben y ffordd ... felly beth sy'n eich
rhwystro? Cofiwch y gallwch newid ac ychwanegu manylion, fel sy'n
briodol.
Pam trafferthu?
• Gall codi ymwybyddiaeth eich rhoi mewn cysylltiad â
chyfranogwyr newydd posibl - a denu noddwyr a chyllid newydd.
• Po uchaf yw eich proffil, po rwyddaf fydd dod o hyd i
wirfoddolwyr neu gyfleusterau.
• Gall cydnabyddiaeth helpu i gadw cyfranogwyr (mae rhannu eich
llwyddiant gyda gweddill y byd yn hwb mawr i ysbryd).
• Mae gan bobl ddiddordeb yn yr hyn rydych yn ei wneud - yn
arbennig ACau, ASau a chynghorwyr a all hyrwyddo eich achos!
Darllenwch ein pecynnau cymorth defnyddiol i helpu i
godi eich proffil:
•
Yr wyf i awdurdod lleol
•
Yr wyf yn gorff llywodraethu
•
Yr wyf yn awyddus i drefnu digwyddiad
• defnyddiol
quotes
Ac os ydych yn dal i gael trafferth?
Codwch y ffôn neu anfonwch neges e-bost atom. Yn Chwaraeon
Cymru, mae ein tîm Marchnata a Chyfathrebu bob amser yn barod i
helpu.
Ffoniwch ni ar 0845 245 0904 Neu anfonwch e-bost at publicity@scw.org.uk