Perfformiad elitaidd

Geraint Thomas with the Olympic torch

Rydym yn genedl sy'n rhagori wrth feithrin talent chwaraeon ac yn cyflwyno llwyddiant parhaus ar y llwyfan rhyngwladol.

I wlad fechan rydym yn sicr yn rhagori ar y disgwyliadau ohonom o ran chwaraeon elitaidd. Does ond rhaid edrych ar ein llwyddiant yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Beijing i weld hyn.

Sport Wales National Centre

Cartref chwaraeon elitaidd yng Nghymru ac rydym ni hefyd yn cynnig gwasanaethau llety a chroeso ac mae ein cyfleusterau chwaraeon ar agor i'r cyhoedd.

Mae'r Ganolfan Genedlaethol yn gartref i 11 o gyrff rheoli a hefyd ein tîm hynod fedrus ni o wyddonwyr chwaraeon, sy'n gweithio ochr yn ochr ag athletwyr addawol Cymru.

Plas Menai National Watersports Centre

Boed yn forwr elitaidd neu'n mentro ar y dŵr am y tro cyntaf, mae Plas Menai mewn lleoliad delfrydol fel prif ganolfan chwaraeon dŵr Cymru.

Os mai hwn yw eich tro cyntaf ar y dŵr, os ydych chi eisiau gwella a datblygu eich sgiliau neu ddim ond eisiau rhoi cynnig arni, bydd yr ystod eang o gyrsiau ym Mhlas Menai'n rhoi blas i chi ar antur am oes!

Commonwealth Games double medalist Jazz Carlin

Rydym yn hoffi gweld Cymru'n disgleirio ar lwyfan y byd felly byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am bopeth sy'n digwydd yn y byd chwaraeon yng Nghymru.

CANLYNIADAU ELITAIDD DIWEDDARAF

 

Mae'r holl newyddion diweddaraf am athletwyr Cymru ar dudalen Facebook Chwaraeon Cymru hefyd, felly cofrestrwch heddiw!

Adnoddau Mewnol

Cysylltiadau Allanol