Amy Brierly /

Amy Brierly

Camp

Pêl foli yn eistedd

O

Fflint

Bywgraffiad

Dechreuodd Amy Brierly chwarae pêl foli yn eistedd yn 2011 ac mae eisoes wedi dod yn aelod o dîm Prydain Fawr ac wedi ennill medal ym Mhencampwriaethau'r Byd.

Pêl foli yn eistedd yw, wel - yn union hynny - camp Baralympaidd ble mae'r chwaraewyr yn eistedd i lawr er mwyn taro'r bêl dros rwyd.               

Cafodd Amy ei geni heb soced clun ac wedi Diwrnod Adnabod Talent yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, gofynnwyd iddi gan Gyfarwyddwr Perfformio Chwaraeon Anabledd Cymru, Anthony Hughes, a fyddai hi'n hoffi rhoi cynnig ar y gamp.                                                         

Dangosodd botensial yn fuan iawn a mynychodd wersyll dewis Tîm PF yn Loughborough yr haf hwnnw. Ar ôl sicrhau lle yn nhîm Prydain, teithiodd i Oklahoma ar gyfer Pencampwriaethau'r Byd ac yno, yn annisgwyl, llwyddodd y tîm i guro Canada a chipio'r efydd.

Llundain 2012 yw ei nod bellach. Dywedodd Anthony Hughes: "Hi oedd un o'r enwau allweddol wrth greu sgwad pêl foli i berfformio. Cymerodd at y gamp fel hwyaden at ddŵr; mae hi'n unigolyn hynod gystadleuol. Rydw i'n hynod falch ei bod hi wedi cael ei henwi yn sgwad Llundain 2012 ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn cystadlu yn Llundain."