Andrew Selby /

Andrew Selby

Dyddiad Geni

25 December 1988

Camp

Bocsio

O

Y Barri

Twitter

@andrewselby1

Bywgraffiad

Mae Selby wedi ennill dwy fedal aur eisoes mewn twrnamentau Ewropeaidd gyda thîm PF. Yn 2009, daeth hefyd yn Bencampwr PF. Cafodd ei enw yn y llyfrau hanes fel y bocsiwr hŷn cyntaf o Gymru i ennill medal (efydd) ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd 2008. Ni lwyddodd Calzaghe i wneud hynny hyd yn oed.

Ond uchafbwynt ei yrfa hyd yma yw cipio'r aur ym Mhencampwriaethau Ewrop ym mis Mehefin 2011. Ochr yn ochr â'i gyd-Gymro, Fred Evans, nhw oedd y Cymry cyntaf i ddod yn Bencampwyr Ewrop ers 86 o flynyddoedd.

Selby oedd y pedwerydd bocsiwr i gymhwyso ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 pan drechodd Khalid Yafai ym Mhencampwriaethau Bocsio Amatur PF ym mis Tachwedd 2011, wedi i'r ddau gyrraedd rownd go-gyn-derfynol Pencampwriaethau Bocsio Amatur y Byd 2011. Aeth Selby ymlaen i ennill yr arian yn y gystadleuaeth ar ôl cael ei drechu i'r aur gan Misha Aloyan o Rwsia.

Ychwanegodd y llanc 23 oed fedal arall at ei gasgliad ym mis Chwefror 2012 drwy orffen yn ail yng Nghwpan Strandja.

Ei lysenw yw 'Smowgley' ac ymunodd â'r gym leol am fod ei dad a'i daid - "gramp" - ill dau'n bocsio. Ac anghofiwch am geir cyflym - mae Selby yn hamddena drwy chwarae bingo, snwcer a mynd i bysgota. Mae'n 5 troedfedd 4 modfedd ac mae wedi bod yn bocsio ers 14 o flynyddoedd. Mae wedi ennill 70 allan o 90 gornest.

Ei hyfforddwr clwb yw Pat Mahoney.