Yn Sister ar Ward yn ystod y dydd yn Ysbyty
Gyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin, mae Anwen yn
llwyddo i ymdopi â'i gwaith gyda theulu ifanc a gyrfa fowlio
lwyddiannus.
Mae hi eisoes wedi profi llwyddiant yng Ngemau'r Gymanwlad
- enillodd yr efydd yn y parau ym Manceinion yn 2002 ac eto yn
Delhi yn 2010 gyda phartner newydd, Hannah Smith, sydd hefyd o
Gaerfyrddin.
Mae ei gyrfa ddisglair hefyd yn cynnwys ennill yr aur yn y
pedwarawdau ym Mhencampwriaethau'r Iwerydd yn 2009. Flwyddyn
ynghynt, cipiodd yr efydd, yn y tripledi y tro hwn, ym
Mhencampwriaethau Bowlio'r Byd 2008.
Dechreuodd y cyfan pan oedd Anwen yn ddim ond 13 oed
- dilynodd ei rhieni i'r gêm a dyw hi heb edrych yn ôl byth ers
hynny. Mae hi bellach yn parhau â'r traddodiad teuluol drwy annog
ei phlant hi ei hun, Alis a Hari, i chwarae.