Becky James /

Becky James

Dyddiad Geni

29 November 1991

Camp

Beicio

O

Y Fenni

Twitter

@BecksJames

Bywgraffiad

Mae Becky yn aelod o Raglen Datblygu Olympaidd Beicio Prydain ac ar hyn o bryd mae'n hyfforddi gyda thîm PF ym Manceinion. Yn 2009, enillodd ddau fedal efydd (keirin a sbrint) a medal arian yn y treialon amser 500m ym Mhencampwriaethau Beicio Trac Iau'r Byd UCI.

Mae Becky yn un o chwech o frodyr a chwiorydd. Mae ei chwiorydd iau, Ffion a Megan, yn beicio hefyd.

Gemau Cymanwlad Delhi 2010 roddodd Becky ar y map go iawn fel un i gadw llygad amdani yn y dyfodol. Cafwyd dau berfformiad arbennig ganddi a daeth adref i'r DU gyda medal efydd yn y Treialon Amser 500m a medal arian yn y Sbrint, gan fethu cipio'r aur o drwch y blewyn yn erbyn Anna Mears o Awstralia.

Enwebwyd y ferch 20 oed yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn 2010 a theithiodd gyda Thîm PF i Gwpan y Byd yn Beijing yn 2011.

Roedd 2011 yn flwyddyn anodd wrth i'r cyn-ddisgybl yn Ysgol King Henry VIII ddioddef o salwch ac anafiadau ond perfformiodd yn arbennig ym Mhencampwriaethau Prydain ym mis Medi, gan ennill ei theitlau cenedlaethol unigol cyntaf yn y sbrint a'r keirin, a chofnodi gorau personol yn y 500 metr.

Daeth 2011 i ben i James wrth iddi gael ei dewis ar gyfer Cwpan y Byd Kazakhstan a daeth yn agos iawn at y medalau yno, gan orffen yn bedwerydd yn sbrint y tîm, a dechreuodd 2012 gyda thrip i Beijing fel rhan o Dîm PF ar gyfer trydedd Cwpan y Byd y gyfres.