Mynychodd Morse Ysgol Gyfun Stanwell ym Mhenarth a dechreuodd ar
ei yrfa pan oedd yn 17 ar ôl cystadlu mewn cystadleuaeth i ysgolion
yng Nghaerdydd. Yn fuan iawn ar ôl ei hennill, dechreuodd
gystadlu'n genedlaethol.
Mae'n ymarfer yn NIAC yng Nghaerdydd ac mae'n derbyn
hyfforddiant cryfder a siapio gyda chriw o daflwyr Olympaidd a
Pharalympaidd addawol yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon
Cymru.
Mae'n dal record genedlaethol Cymru ar lefel hŷn, record
newydd-ddyfodiaid Cymru a record dan-23 Prydain, ac ef yw'r
athletwr cyntaf o Gymru i ennill yng nghystadleuaeth y ddisgen ym
Mhencampwriaethau'r
DU.
Ef oedd prif daflwr disgen iau y DU yn 2007 a 2008 ac mae'n
gefnogwr brwd i dîm pêl droed Manceinion Unedig. Dywed mai'r
dylanwad mwyaf ar ei yrfa athletau yw ei deulu.
Ym mis Mai 2010, taflodd yng nghystadleuaeth bwysig Halle yn yr
Almaen, ble enillodd y gystadleuaeth D23 gyda thafliad o 61.27m.
Mae hyn wedi sefydlu Morse fel rhif un y Byd am daflu
D23.
Taflodd Morse dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn
2010, gan orffen yn barchus iawn yn y chweched safle, ac yn 2011
cafodd ei ddewis i gystadlu dros PF ym Mhencampwriaethau D23
Ewrop.
Mae ganddo radd mewn Rheolaeth Chwaraeon a chymerodd Morse ran
yn Aviva Star:track pan oedd yn iau a nawr mae'n hyfforddi ar gyfer
y cynllun yn ogystal â hyfforddi'r tîm D11 yn ei glwb pêl droed
lleol, Tref Penarth.