Carys Parry /

Carys Parry

Dyddiad Geni

24 July 1981

Camp

Morthwyl

O

Merthyr Tudful

Bywgraffiad

Mae Carys, sy'n 29 oed, yn siarad Cymraeg yn rhugl a mynychodd Ysgol Gyfun Cymer yn y Rhondda. Dechreuodd ei gyrfa athletau fel rhedwr pellter canol ond ar ôl diflasu ar 'fynd rownd a rownd mewn cylchoedd', dechreuodd gystadlu ar y morthwyl.  

Gorffennodd Carys yn chweched yng Ngemau Cymanwlad 2006 ym Melbourne gyda thafliad o 61.80 metr, a oedd yn orau personol iddi hi. Ar hyn o bryd, mae hi'n dal record Cymru ac yn ei hamser hamdden, mae Carys yn actores ac yn gyfarwyddwraig.

Ei chyflawniad gorau hyd yma yw ennill yr arian yn y Gemau Cymanwlad yn 2010 yn Delhi. Mae'n cael ei hyfforddi gan Lorraine Shaw a'i thad.