Christian Malcolm /

Christian Malcolm

Dyddiad Geni

03 June 1979

Camp

200m

O

Casnewydd

Twitter

@ChristianM200

Bywgraffiad

Mae Malcolm wedi bod yn amlwg yn y byd athletau ers nifer o flynyddoedd ac mae'n dal i gyflawni ar y lefelau uchaf.             

Yn 2010, enillodd fedal efydd yn y 200m yn y Gemau Cymanwlad. Yn Beijing yn 2008, roedd yn herio Usain Bolt yn rownd derfynol y 200m. Gorffennodd yn bumed yn rownd derfynol gyflymaf erioed y 200m yn y Gemau Olympaidd.

Cyrhaeddodd y llwyfan rhyngwladol yn Zurich yn 1997 pan gurodd yr enwog Carl Lewis. 12 mis yn ddiweddarach, syfrdanodd y genedl drwy gipio arian y 200m yng Ngemau Cymanwlad Kuala Lumpur a gosododd record iau  Ewropeaidd a record hŷn yng Nghymru ar yr un pryd.                                                                      

Yn 21 oed, cyrhaeddodd rowndiau terfynol Gemau Olympaidd Sydney pan orffennodd yn bumed a rhedeg gydag anaf yn 2002 i ddod yn 4ydd yn y Gemau Cymanwlad ym Manceinion.           

Cyn Gemau Olympaidd Athen yn 2004, bu'n rhaid i'r sbrintiwr o Gasnewydd - a gafodd dreialon gyda QPR a Nottingham Forest pan oedd yn iau - fynd i'r ysbyty oherwydd methiant ei arennau yn ystod ei baratoadau yng ngwersyll ymarfer Tîm PF yng Nghyprus.

Er gwaetha'r anhwylder difrifol hwn, fe gystadlodd Malcolm a llwyddodd i gyrraedd rowndiau cyn-derfynol y 200m.