Cafodd Cymru bleser o'r mwyaf yn gwylio Greene yn hawlio ei
fedal aur yng Ngemau Cymanwlad 2010. Cwblhaodd dymor
buddugoliaethus iddo ym Mhencampwriaethau Ewrop, Cwpan Ewrop a
Chwpan Gyfandirol yr IAAF.
Yn 2011, profodd uchafbwynt ei yrfa hyd yma: aur ym
Mhencampwriaethau'r Byd. Daeth y fuddugoliaeth yn Daegu gyda
pherfformiad pwerus a hyderus i drechu Javier Culson.
Hefyd cafodd ei anrhydeddu ar ddiwedd tymor hir 2010 gan
Gymdeithas Newyddiadurwyr Chwaraeon Prydain am Berfformiad Nodedig
y Flwyddyn.
Cyflwynwyd ef i athletau am y tro cyntaf yn Ysgol Gynradd
Penygaer ond ni ddechreuodd ymarfer o ddifrif nes iddo fynd i APCC
yn 19 oed ac ymuno â chriw hyfforddi Darrell Maynard.
Graddiodd mewn Rheolaeth Hamdden a Chwaraeon yn 2008. Mae bellach
wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerfaddon ac yn hyfforddi
gyda Malcolm Arnold.
Sgoriodd gôl yn erbyn tîm ieucndtid Real Madrid unwaith, pan
oedd yn chwarae i ieuenctid Dinas Abertawe.