David Roberts /

David Roberts

Dyddiad Geni

20 February 1980

Camp

Nofio

O

Pontypridd

Twitter

@swimmerdai

Bywgraffiad

Mae'n siŵr bod arwr y byd nofio Paralympaidd, David Roberts, yn edrych ar ei gabinet medalau ac yn meddwl ble yn y byd y caiff le i'w gasgliad nesaf.

Mae wedi casglu nifer anhygoel o 16 o fedalau (gydag 11 ohonynt yn rhai aur) yn ystod y Gemau Paralympaidd yn 2008, 2004 a 2000.

Yn 24 oed, derbyniodd MBE gan y Frenhines. Ond dechreuodd y cyfan wedi i David gael diagnosis o barlys yr ymennydd yn 11 oed. Dechreuodd nofio fel rhan o'i ffisiotherapi. Dair blynedd yn ddiweddarach, roedd eisoes yn nofio dros Gymru ac, yn 19 oed, teithiodd i Bencampwriaethau Ewrop gan ennill pob un o'i bedair cystadleuaeth.

Daeth ei freuddwydion Paralympaidd yn wir yn 2000 yn Sydney gyda thri medal aur, tri arian ac un efydd. Ond yn Athen yn 2004 y gwireddwyd ei botensial mawr yn llawn, gyda phedwar medal aur, un arian a dwy record byd. Yn Beijing yn 2008, enillodd bedwar medal aur arall.

Yn 2006 cynrychiolodd Roberts Gymru yng Ngemau Cymanwlad Melbourne a rhagorodd yn y ras aml-anabledd 100m gan gipio'r efydd oddi ar y nofiwr o Awstralia, Ben Austin, a dod 0.02 oddi wrth guro ei Record Byd ei hun.                                                   

Fis Ebrill 2011, torrodd David ei benelin, a bu'n rhaid iddo beidio cystadlu ym Mhencampwriaethau Nofio Rhyngwladol yr Anabl.              

Ef yw Paralympiad mwyaf llwyddiannus Prydain ein dyddiau ni, ochr yn ochr â'i gyd-Gymraes lwyddiannus yn y byd rasio cadair olwyn, Y Farwnes Tanni Grey-Thompson

Torri ei benelin yw'r rhwystr diweddaraf i Roberts, ac mae wedi gorfod wynebu sawl rhwystr. Torrodd ei benelin ym mis Hydref 2009 hefyd, a chleisio ei asennau a'i ysgwydd dde, ac mae hefyd wedi cael trafferthion gyda cherrig yr arennau. Torrodd ei droed yn gymharol ddiweddar hefyd.