Yn focsiwr hyderus gydag ergyd enwog a sgiliau i gyd-fynd â hi,
gwelwyd potensial Evans yn fuan iawn yn ei yrfa focsio, wedi
sawl perfformiad rhyngwladol trawiadol ar lefel iau. Mae ei
gyflawniadau'n cynnwys medal aur ym Mhencampwriaethau Cadet Ewrop
yn Hwngari yn 2007.
Yn 2008, ef oedd un o'r unig dri bocsiwr addawol a gafodd eu
hedfan gan Gymdeithas Olympaidd Prydain i Beijing yn ystod y
Gemau Olympaidd, fel rhan o'r Cynllun Uchelgais Olympaidd.
Teithiodd i Delhi ar gyfer Gemau Cymanwlad 2010.
Mae Jim Davison, Hyfforddwr y Sgwad Datblygu, yn disgrifio Fred
fel "bocsiwr dewr, talentog iawn a phrofiadol sy'n dal ei dir yn
braf yn y sgwad datblygu, ac yn agos iawn at dorri drwodd i'r
podiwm."
Ymhlith uchafbwyntiau ei yrfa hyd yma mae ennill medal aur ym
Mhencampwriaethau Ewrop ym mis Mehefin 2011. Ochr yn ochr â'r Cymro
arall, Andrew Selby, nhw oedd y Cymry cyntaf i fod yn
Bencampwyr Ewrop ers 86 o
flynyddoedd.
Yn 6ed yn y byd, Evans oedd y bocsiwr cyntaf i
gymhwyso ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 drwy gyrraedd
rowndiau go-gyn-derfynol Pencampwriaethau Bocsio Amatur y Byd
yn 2011 yn Azerbaijan.
Ychwanegodd y gŵr 21 oed fedal arall at ei gasgliad drwy ennill
yr aur yng Nghwpan Strandja ym mis Chwefror 2012.
Ei hyfforddwr clwb yw Tony Borg.