Mae Gareth wedi bod yn cystadlu mewn codi pwysau ers tair
blynedd ar ddeg ers mynychu Ysgol Uwchradd Caergybi yng Nghaergybi.
Ar ôl rhannu ei amser rhwng ymarfer a gweithio fel paentiwr ac
addurnwr yng Ngogledd Cymru, symudodd yn barhaol i Leeds yn y
diwedd, i fod yn rhan o ganolfan perfformiad Codi Pwysau Prydain
Fawr.
Uchafbwynt ei yrfa hyd yma yw cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn
Delhi yn 2010.
Mae wedi dod o stabl godi pwysau enwog yr hyfforddwr
cenedlaethol, Ray Williams.