Wedi ymuno â chlwb nofio gyda'i ffrind gorau yn 10 oed, mae
Georgia, o Abertawe, wedi mynd ymlaen i nofio'n gystadleuol byth
ers hynny.
Mae hi hefyd yn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe ac mae
Georgia bob amser yn teimlo bod cynrychioli ei gwlad yn anrhydedd
fawr. Enillodd ei medal rhyngwladol cyntaf yn y Pencampwriaethau
Iau Ewropeaidd.
Cafodd ei dewis yn aelod o'r sgwad i deithio i Gemau Ieuenctid y
Gymanwlad yn 2008 ac mae'n breuddwydio am gystadlu yn y Gemau
Olympaidd.
Yna, yn y Gemau Cymanwlad yn 2010, cipiodd Georgia fedal
efydd yn y dull cefn 50m a hefyd daeth yn bedwerydd yn y ras
cyfnewid gyda gorau personol/record Cymru o 60.9 am ei dull
cefn. Mae'n ystyried y rhain fel ei chyflawniadau mwyaf hyd
yma.