Yn cael ei ddisgrifio'n aml iawn fel un o dalentau beicio ifanc
mwyaf disglair Prydain, mae'r llanc 25 oed wedi cefnogi ei enw da
gyda llu o ganlyniadau
arbennig.
Mae'r beiciwr sy'n aelod o Dîm Sky wedi bod yn bencampwr trac
sawl gwaith ar lefel y byd ac mae wedi ennill medalau Olympaidd a
Chymanwlad, i enwi dim ond rhai o'i
gyflawniadau.
Dechreuodd Thomas feicio gyda'r Maindy Flyers yn 10 oed, ac aeth
ymlaen i ennill D14 a D16. Ond ar ôl iddo ennill medal arian ym
Mhencampwriaethau Ewrop y cafodd ei botensial ei
wireddu.
Yn fuan iawn daeth y beiciwr o Gaerdydd yn aelod o Raglen
Academi Feicio Prydain ac aeth yn ei flaen i deithio'r byd yn
cystadlu yng Nghwpan y Byd. Yn Sydney yn 2005 cafodd Thomas
ddamwain a bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth i dynnu ei ddueg wedi
i far metel daro beic cyd-aelod o'i dîm, gan achosi i Thomas fynd i
wrthdrawiad â handlenni ei feic.
Ers hynny, mae wedi ennill medal efydd i Gymru yn Ras Bwyntiau
40km y dynion yng Ngemau Cymanwlad Melbourne 2006 a hefyd medal
arian yng nghystadleuaeth y Gweithgaredd Tîm ym Mhencampwriaethau'r
Byd yn Bordeaux. O ychwanegu ei fedalau yng nghyfres Cwpan y Byd at
y rhain, ac aur ym Mhencampwriaethau Beicio Trac y Byd yn 2007 ac
aur yn y Gweithgaredd Tîm yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008, mae
ganddo gasgliad anrhydeddus - heb sôn am ei lwyddiant yn y Tour de
France.
Ef oedd y beiciwr ieuengaf i gymryd rhan yn y Tour yn 2007 a
daeth yn 140fed ond yn 2010 y gwnaeth ei farc o ddifrif.
Gan orffen yn 67fed yn gyffredinol, gan Thomas oedd y
siwmper wen rhwng Cymalau 3 a 7 ac, yn 2011, ganddo ef oedd siwmper
y Beicwyr Iau rhwng Cymalau 1 a 7.
Yn beicio i dîm UCI ProTour Tîm Sky, cafodd Thomas ei
fuddugoliaeth broffesiynol gyntaf ym mis Mai 2011 drwy ennill ras
bum niwrnod Bayern-Rundfahrt. Yn wir, profodd 2011 yn flwyddyn
lwyddiannus i yrfa ffordd Thomas. Daeth yn ail i Bradley Wiggins ym
Mhencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Prydain a chwaraeodd
ran allweddol ym muddugoliaeth Mark Cavendish ym Mhencampwriaethau
Rasio Ffordd y Byd UCI yn 2011.
Y trac sy'n hoelio sylw Geraint yn 2012 gyda'r nod o gystadlu
dros Dîm PF yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.