Hannah Smith /

Hannah Smith

Dyddiad Geni

14 July 1986

Camp

Bowlio Lawnt

O

Caerfyrddin

Bywgraffiad

Yn ddim ond 23 oed, Hannah oedd bowlwraig ieuengaf Tîm Cymru yn Delhi yn 2010, sef ei Gemau Cymanwlad cyntaf erioed. Daeth adref gyda medal efydd ochr yn ochr â chyd-aelod o'r tîm, Anwen Butten, ym Mharau'r Merched.

Dechreuodd y cyfan pan oedd hi ar y llinell ochr, yn gwylio ei thad yn chwarae.

Yn wir, dywed ei bod hi wedi bod yn mynd i'w lawnt fowlio leol er pan oedd hi'n fabi mewn pram. Wedi blynyddoedd o wylio ei thad yn chwarae, gofynnodd a fyddai hi'n cael ymuno a syrthiodd mewn cariad â'r gêm ar unwaith.

Enillodd yr aur ym Mhencampwriaethau anrhydeddus yr Iwerydd yn 2009.

Yn ystod y dydd, mae Hannah yn gynorthwy-ydd yn y feithrinfa yng Ngholeg y Drindod.