Helen Jenkins /

Helen Jenkins

Dyddiad Geni

08 March 1984

Camp

Triathlon

O

Pen-y-bont ar Ogwr

Twitter

@heljinx

Bywgraffiad

Enillodd Helen Jenkins o Ben-y-bont ar Ogwr ei hail Bencampwriaethau Triathlon Byd yn 2011. Daeth y fuddugoliaeth - sy'n seiliedig ar berfformiad yn y gyfres ITU - wedi tymor rhagorol pan enillodd yn Llundain ar y cwrs Olympaidd yn Hyde Park. Yna gorffennodd yn ail yn y gystadleuaeth i orffen y tymor yn Beijing. Hwn oedd y trydydd tro iddi ddod yn ail yn nhymor 2011.

Yn 2006 cafodd anaf i'w thendon Achilles ac, ar ôl ailddechrau ymarfer yn 2007, dechreuodd yr anaf i'w ffêr ei phoeni eto. Ar ôl gwaith dwys gyda thîm gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon Chwaraeon Cymru, gwnaeth adferiad llwyr a newidiodd ei dull o redeg yn sylweddol. Daeth yn ôl yn gryfach nag erioed a chipiodd ei theitl cyntaf ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2008. Yn yr un flwyddyn cystadlodd yng Ngemau Olympaidd Beijing (gan orffen yn 21ain) a phriododd ei hyfforddwr, Marc Jenkins.

Helen (Tucker gynt) oedd Pencampwr Iau Prydain yn 2003.