Mae Ieuan, a aned ym Mhenarth, yn un o sêr addawol Cymru.
Wedi i'w dad ei ddysgu i nofio yn ddim ond tair oed, ymunodd
Ieuan â Chlwb Nofio Caerdydd yn ddim ond chwech oed a nawr mae'n
ymarfer ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd gyda'r hyfforddwr Dave
Haller.
Dechreuodd Ieuan dorri recordiau yn ddim ond 15 oed pan gurodd
record 200m Grŵp Oedran Prydain ac yna aeth ymlaen i ennill yr
arian yng Ngemau Ysgolion y DU yn 2008. Y llynedd, enillodd yr aur
yn y 200m yng Ngŵyl Olympaidd Ieuenctid Ewrop.
Yn 2011, enillodd y cefnogwr brwd i Ddinas Caerdydd fedal aur yn
y 200m Cymysg Unigol ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop a helpodd y tîm
cyfnewid 4x200m dull rhydd i gipio'r aur.
Yn seren yn y pwll yn sicr, ac yn un o sêr Tîm Cymru, daeth
Lloyd gartref o Gemau Ieuenctid y Gymanwlad ar Ynys Manaw gyda phum
medal. Aur yn y 200m dull rhydd, y 200m CU a'r 4x200m cyfnewid,
arian yn y 100m dull rhydd ac efydd yn y 400m dull rhydd.
Mae ei gyda-aelod a'i ffrind yng Nghlwb Nofio Caerdydd, David
Davies, yn dweud bod rhaid cadw llygad amdano yn y dyfodol.