Ar ôl dechrau cymryd rhan mewn taekwondo yn chwech oed, ar
awgrym ei thaid, mwynhaodd Jade gynnydd cyflym drwy'r rhengoedd i
ddod yn rhif un yr ieuenctid yn y DU mewn unrhyw adran, ymhlith y
bechgyn a'r merched.
Yn ymladd yn yr adran -55kg, cafodd y ferch sydd wedi bod
yn bencampwraig iau Prydain ddwywaith yn olynol, flwyddyn dda iawn
yn 2010 gan gipio medal aur cyntaf erioed Prydain yng Ngemau
Olympaidd yr Ieuenctid yn Singapore. Yn ystod yr un flwyddyn,
enillodd yr aur ym Mhencampwriaethau Agored Paris a'r Iseldiroedd
cyn ymladd ei ffordd at arian ym Mhencampwriaethau Iau'r Byd ym
Mecsico. Bu'r pontio i'r rhengoedd hŷn yn ddidrafferth iawn i Jade
a chipiodd fedal efydd yn y Pencampwriaethau
Ewropeaidd.
Mae Jade bellach yn aelod o sgwad elitaidd hŷn Taekwondo
Prydain ac yn ymladd yn yr adran pwysau -57kg Olympaidd, a
pharhaodd ei llwyddiant yn cipio medalau ar raddfa fawr yn 2011. Ei
huchafbwynt oedd ennill medal arian ym Mhencampwriaethau'r Byd yn
Ne Korea - gan fethu ennill yr aur o drwch y blewyn, a cholli mewn
gêm benderfynu dyngedfennol yn erbyn ei gwrthwynebydd Tsieineaidd.
Hefyd, cipiodd yr aur (-62kg) a'r efydd (-57kg) ym Mhencampwriaeth
Agored UDA, yr arian ym Mhencampwriaeth Agored yr Almaen, efydd ym
Mhencampwriaeth Agored Chuncheon, aur ym Mhencampwriaeth Agored
Prydain ac efydd ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc.
Mae dechrau da arall yn 2012 wedi gweld Jade yn ennill yr
arian ym Mhencampwriaeth Agored yr Almaen ac efydd ym
Mhencampwriaethau Ewrop.
Mae wedi ennill gwobrau dirifedi, gan gynnwys
Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn BBC Wales a
Chydnabyddiaeth Arbennig Academi Chwaraeon Jaguar a Gwobrau Seren y
Dyfodol.
Mae'n hyfforddi yn Academi Taekwondo PF ym Manceinion, ar
y Rhaglen Berfformio Safon Byd, o dan lygad barcud Cyfarwyddwr
Perfformio Tîm PF, Gary Hall.