Ymddangosodd Jazz Carlin yn y byd nofio ar ôl gwneud enw iddi hi
ei hun ochr yn ochr â thalent euraid PF, Rebecca
Adlington.
Cystadlodd y nofwraig o Abertawe dros PF ym Mhencampwriaethau'r
Byd yn Rhufain yn 2009 yn y Dull Rhydd 4x200m fel rhan o dîm a
oedd yn cynnwys enillwyr medalau yn Beijing, sef Jo Jackson a
Rebecca Adlington. Nid yn unig y daethant adref gyda'r fedal efydd,
ond hefyd gyda record Ewropeaidd a Phrydeinig newydd.
Cyflwynwyd Jazz, a aned yn Swindon, i'r pwll am y tro cyntaf pan
aeth ei thad â hi i'r pwll lleol yn ddim ond 10 mis oed. O'r fan
honno, ymunodd â chlwb lleol yn ddim ond pump oed ac yna symudodd i
Gymru i ymarfer gyda Sgwad Perfformio Abertawe yn 16
oed.
Mae hi wedi bod yn cystadlu er pan mae'n 11 oed ac felly mae'n
gyfarwydd iawn â llawer o sylw. Cystadlodd dros Gymru yng Ngemau
Cymanwlad 2006 ym Melbourne a daeth yn wythfed yn rownd
derfynol yr 800m Dull Rhydd. Mae hi wedi cystadlu yn India
dros Gymru ddwywaith, yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn 2008
yn Pune ac yng Ngemau Cymanwlad Delhi 2010, ble enillodd fedal
arian yn y 200m a medal efydd yn y 400m.
Ym Mhencampwriaethau Prydain ym mis Mawrth 2011, gosododd y
ferch 21 oed oreuon personol a recordiau ar lefel Cymru yn
y 400m a'r 800m dull rhydd i gymhwyso am Bencampwriaethau Byd
2011 yn Shanghai yn y mis Gorffennaf.