Jemma Lowe yw un o aelodau mwyaf profiadol gwersyll nofio Cymru
ac mae'n dod i fwy a mwy o amlygrwydd yn ei chystadlaethau.
Mae'r gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Florida wedi bod yn cystadlu
ers 12 mlynedd a nofiodd dros Brydain am y tro cyntaf yn 2004. Ers
hynny mae hi wedi mynd o nerth i nerth gan orffen yn chweched yng
Ngemau'r Gymanwlad ym Melbourne 2006 yn y 200m pili pala a hefyd
cipiodd ddau arian ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop yn yr un
flwyddyn.
Hefyd, cafodd Jemma - y mae ei thad yn dod o Gaerdydd - flwyddyn
ffantastig yn 2007. Ym mis Awst, yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol
yn Sheffield, gosododd Record Hŷn newydd ym Mhrydain yn y 100m pili
pala mewn amser o 58.73 eiliad. Mae'r nofwraig dalentog yma'n dal
record Cymru yn y 50m a'r 100m pili pala hefyd, a record Prydain yn
y 200m pili-pala, a osodwyd ganddi ar ei ffordd i fod yn
Bencampwraig Prydain yn y treialon Olympaidd yn Sheffield ym mis
Ebrill 2008.
Pencampwriaethau Prydain yn 2008 a helpodd Jemma i gamu'n nes at
wireddu ei breuddwyd o gystadlu yng Ngemau Olympaidd Beijing yn
2008. Daeth yn un o saith o athletwyr o Brydain i gymhwyso ar gyfer
y Gemau ac aeth ymlaen i gystadlu yn y 100m a'r 200m pili pala, a
hefyd ras gyfnewid gymysg 4x100m y merched. Gorffennodd yn chweched
yn rownd derfynol y 100m a chyrhaeddodd y rowndiau cyn-derfynol yn
y 200m gan ddod yn nawfed. Roedd hi hefyd yn rhan o ras gyfnewid y
merched a ddaeth yn
bedwerydd.
Hefyd yn 2008, enillodd Jemma dri medal aur unigol yng Ngemau
Ieuenctid y Gymanwlad yn India.
Enillodd yr efydd yn y 100-metr pili pala yng Ngemau Cymanwlad
Delhi yn 2010. Yn fuan wedyn, penderfynodd Lowe symud at ITC Nwy
Prydain yn Abertawe i baratoi ar gyfer Llundain 2012.
Gorffennodd yn 8fed yn y 100m pili pala ym
Mhencampwriaethau'r Byd yn Shanghai yn 2011.