Dathlodd y ferch ifanc dalentog o Gas-gwent, Jenny Mcloughlin,
ei phen blwydd mewn steil - trodd yn 19 ar ddiwrnod Seremoni
Agoriadol Gemau'r Gymanwlad yn Delhi. Aeth yn ei blaen i
gipio'r arian yn y 100m.
Mae hi eisoes wedi cynrychioli Tîm PF yn y Gemau Paralympaidd.
Dim ond 16 oed oedd hi a gorffennodd yn y rhagrasys yn
y 100m a'r 200m.
Hyfforddir Jenny gan Darrell Maynard ac mae ei thalent wedi cael
ei meithrin gan Academi Chwaraeon Anabledd Cymru, sy'n ceisio
gwneud yn siŵr bod athletwyr anabl ifanc Cymru sy'n dangos addewid
i gipio meddalau yn cael y gefnogaeth hanfodol o'r dechrau un.
Dywed Jenny mai Lance Armstrong yw ei model rôl. Yn ei
hamser rhydd, mae hi'n mwynhau marchogaeth ceffylau ac mae'n
cefnogi clwb pêl droed Manceinion Unedig.
Mae Jenny yn cystadlu yn nosbarth T37 y 100m a'r 200m.