Mae'r gŵr ifanc a aned yng Nghaerfyrddin wedi bod gydag Abertawe
er pan oedd yn naw oed a chwaraeodd yn y gynghrair am y tro cyntaf
yng ngêm derfynol tymor 2006/07. Dechreuodd ei gêm gyntaf yn y
fuddugoliaeth yng Nghwpan Carling yn erbyn Walsall a chafwyd
perfformiad gorau'r gêm gan y chwaraewr rhyngwladol i garfan dan 21
Cymru.
Chwaraeodd Joe ran allweddol yn ymgyrch Abertawe am ddyrchafiad
yn ystod tymor 2008/09 ac enillodd wobr Chwaraewr Ifanc y
Flwyddyn.
Sylwodd rheolwr Cymru, John Toshack, ar ei dalent a galwodd y
gŵr ifanc yn aelod o'i sgwad hŷn ar gyfer y gemau rhyngwladol ar
ddiwedd y tymor yn erbyn Estonia ac Azberbaijan, ac ymddangosodd am
y tro cyntaf yn erbyn Estonia.
Gyda Brendan Rodgers wrth y llyw, ymddangosodd Joe Allen 43 o
weithiau yn y Bencampwriaeth, gan gynnwys rownd derfynol y gemau
ail gyfle.
Daw cynnwys y bywgraffiad hwn o wefan swyddogol Clwb Pêl Droed
Dinas Abertawe - www.swanseacity.net.