Mark Colbourne /

Mark Colbourne

Camp

Beicio

O

Tredegar

Bywgraffiad

Mae Mark yn dangos ei awdurdod yn y byd Parafeicio. Mae'r cyn-Ymgynghorydd Gwerthiant yn newydd i'r gamp. Dim ond yn 2009 y torrodd ei gefn mewn damwain Baragleidio ar draeth Rhosili ond eisoes mae'n dechrau llenwi'r cwpwrdd tlysau. 

Daeth y Cymro 42 oed yn rhan o sgwad PF y llynedd ac ers hynny mae wedi cipio medal arian ym Mhencampwriaethau Ffordd y Byd ac wedi ennill ei Aur cyntaf erioed ym Mhencampwriaethau Parafeicio'r Byd yn ei gystadleuaeth trac ryngwladol gyntaf. Enillodd fedal arian yn y treialon amser 1km hefyd.      

Bydd yn gystadleuydd cryf am le yn sgwad PF ar gyfer Llundain 2012 yn awr.

Newyddion am Mark /