Dechreuodd Natalie Powell gymryd rhan mewn jiwdo yn ddim ond
wyth oed ac ar ôl dim ond blwyddyn o hyfforddiant, dechreuodd
gystadlu yn naw oed.
Cafodd ei chyflwyno i'r gamp gan ffrindiau ac mae'r ferch 21 oed
wedi hoelio sylw'r cyhoedd yn ystod y 12 mis diwethaf ar ôl llu o
ganlyniadau llwyddiannus. Yn 2011, enillodd yr aur yng Nghwpan
Ewrop ym Malaga a chipiodd deitlau yn Nhreialon Prydain a Gemau
Ysgolion y DU.
Yn cael ei hyfforddi gan Craig Ewers, mae Natalie yn ymarfer
deirgwaith y dydd yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru ac
mae'n breuddwydio am ennill yr aur yng Ngemau Cymanwlad Glasgow
2014 a chystadlu dros Dîm PF yn y Gemau
Olympaidd.