Mae gan Nathan siawns dda o ennill medal yng Ngemau Paralympaidd
Llundain 2012. Methodd seren y byd gwaywffon â chipio medal yng
Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008. Gwnaeth iawn am hynny drwy
ennill yr aur ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd y Pwyllgor
Paralympaidd Rhyngwladol yn Seland Newydd yn 2011.
Roedd 2011 yn flwyddyn dda i Nathan wrth iddo dorri Record Byd
dosbarth F57 y waywffon gyda phellter gorau o 41.37m yng
Ngornest Athletau Agored Y Weriniaeth Tsiec yn Olomouc ym mis
Awst.
Mae hyn yn ei wneud yn ffefryn pan ddaw'r Gemau i Lundain yn
2012.
Cyn ymroi i athletau, dangosodd Nathan addewid mewn nifer o
chwaraeon. Teithiodd i Gemau Paralympaidd y Gaeaf yn Turin yn 2006
hyd yn oed, fel aelod o dîm hoci sled
PF.
Er mai ei brif ddisgyblaeth yw'r waywffon, mae ganddo siawns o
gymhwyso gyda'r ddisgen hefyd.
Ar ei ben blwydd yn naw oed, fel rhan o gêm herio ffôl fel y
dywed, ceisiodd Nathan neidio ar drên nwyddau. Collodd ei goes
chwith wrth ei glun a'i goes dde uwch ben y
pen-glin.