Mae Cooke yn un o dalentau chwaraeon gorau Cymru. Mae ganddi lu
o gyflawniadau i'w henw - gan gynnwys yr aur yn y Gemau Olympaidd
yn Beijing.
Yn 16 oed enillodd ei theitl cenedlaethol hŷn cyntaf, gan ddod y
feicwraig ieuengaf i gipio teitl y merched hŷn ym Mhencampwriaethau
Rasio Ffordd Cenedlaethol Prydain.
Wrth ofyn iddi sut dechreuodd y cyfan, mae'n dweud, "Wrth dyfu i
fyny, roedden ni'n gwneud llawer o feicio fel teulu, roedd hyd yn
oed ein gwyliau ni ar dandems!"
Trodd yn broffesiynol yn 2002, gan rasio i dîm
Sbaenaidd-Eidalaidd Deia-Pragma-Colnago, gan symud i Treviso
ble dysgodd siarad Eidaleg.
Mae wedi cael gyrfa anhygoel gan gasglu teitlau a medalau Cwpan
y Byd, Pencampwr Byd a Gemau'r Gymanwlad.
Ond dydi pethau heb redeg yn esmwyth bob amser. Cafodd
lawdriniaeth yn 2004 i wella problem gyda'i phen-glin. Torrodd bont
ei hysgwydd yn 2005.
Roedd 2008 yn flwyddyn lwyddiannus. Ymunodd â Thîm Halfords
BikeHut ac aeth ymlaen i ennill ei nawfed teitl fel pencampwr ras
ffordd. Cafodd fuddugoliaeth ddramatig yn y ras ffordd yng Ngemau
Olympaidd 2008 yn Beijing. Hi oedd y ferch gyntaf i fod yn
Bencampwr ras ffordd y Byd ac i ennill medal aur Olympaidd yn yr un
flwyddyn.
Teithiodd i Delhi yn 2010 i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r
Gymanwlad. Daeth yn bumed.