Pippa Britton /

Pippa Britton

Dyddiad Geni

27 May 1963

Camp

Archery

O

Newport

Twitter

@warpedwoman

Bywgraffiad

Cafodd Britton lawdriniaeth fawr yn 2006 a bu ei hyfforddwr, Tim Hazell, yn gefn mawr iddi wrth iddi wella'n llawn ac yna gosod tair record byd. Yn wir, ddeng niwrnod yn unig ar ôl dechrau saethu eto wedi cael y llawdriniaeth, cipiodd Britton fedal arian yn Grand Prix Ewrop.

Nid yw'n syndod efallai mai ei model rôl yw Kelly Holmes - "oherwydd mae hi wedi dal ati drwy anafiadau a phroblemau ac, yn y diwedd, fe dalodd ei holl waith caled ar ei ganfed iddi."

Mae ei hymweliadau â Phencampwriaethau'r Byd wedi profi'n llwyddiant. Yn 2007 ac yn 2009, helpodd Prydain Fawr i gipio aur y tîm. Mewn tair Pencampwriaeth Byd flaenorol, daeth adref gyda dau aur unigol ac un efydd. Daeth yn agos at y medalau yn Beijing, gan ddod yn bumed, ac mae hi wedi parhau i fwynhau llwyddiant, gan ennill medal arian yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn Vichy, Ffrainc yn 2010. Ar hyn o bryd mae hi'n rhif 2 yn y byd felly mae ganddi siawns da iawn o ennill medal yn Llundain.

Mae hi i'w gweld gan amlaf naill ai'n ymarfer yng Nghlwb Saethyddiaeth Llantarman, yng Nghanolfan Denis Casnewydd neu yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd, ble mae hi hefyd yn cael cefnogaeth gan dîm gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon Chwaraeon Cymru.

Mae ei hymarfer corff nid yn unig yn cynnwys saethu ond hefyd mae hi'n nofio i sicrhau ffitrwydd cyffredinol. Mae ei pharatoadau ar gyfer y podiwm hefyd yn cynnwys sesiynau seicoleg chwaraeon rheolaidd oherwydd mae hi'n credu mai paratoi'n feddyliol yw'r allwedd i lwyddiant.