Rhys Williams /

Rhys Williams

Dyddiad Geni

27 February 1984

Camp

Athletau

O

Caerdydd

Twitter

@rhys400h

Bywgraffiad

Mae Williams, a aned yng Nghaerdydd, wedi dilyn ôl troed y teulu drwy ddewis gyrfa mewn chwaraeon; roedd ei dad yn chwarae rygbi i Lewod Prydain a Chymru, ei chwaer yn ymwneud ag athletau iau ar lefel PF ac mae ei frawd yn cynrychioli Cymru mewn athletau hefyd.

Daeth yn greulon o agos at gael ei ddewis ar gyfer Gemau Olympaidd 2008, ond methu a wnaeth oherwydd anaf i'w droed a gafodd wrth gymryd rhan ym Mhencampwriaethau Cymru ddeufis ynghynt yn unig. Hwn oedd y tro cyntaf iddo gystadlu ers dioddef o anaf tebyg flwyddyn yn gynharach.                      

Yn ôl yn cystadlu yn 2010, cipiodd yr arian, y tu ôl i'w gyd-Gymro Dai Greene, ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Barcelona. Yna, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, roedd ar y rostrwm eto. Y tro hwn, yng Ngemau Cymanwlad 2010 yn Delhi, ble cipiodd yr efydd.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llanharri, dechreuodd gymryd rhan mewn athletau yn yr ysgol a bellach mae'n hyfforddi yng Ngogledd Llundain gyda Dan Pfaff.