Robert, sy'n 49 oed, yw un o aelodau mwyaf profiadol sgwad
bowlio'r dynion, ar ôl cipio dau fedal aur, tri arian ac efydd mewn
Gemau Cymanwlad blaenorol, a chario baner tîm Cymru yn Kuala Lumpur
1998. Mae wedi bod yn cystadlu dros Gymru er 1982.
Mae'n gweithio i Gymdeithas Tai Swydd Henffordd ac mae ganddo
record o 91 o gapiau, yn ogystal â'i holl fedalau o Gemau'r
Gymanwlad a hefyd yr aur yn y parau a'r efydd yn y pedwarawdau ym
Mhencampwriaethau'r Iwerydd yn 2009. Ei lysenw yw'r Silent
Assassin.
Fe'i cyflwynwyd i'r gamp gan ei dad a ffrind ei dad ac mae'n
rhannu ei amser hyfforddi rhwng y lawnt awyr agored yn Llanandras
a'r un dan do yn Islwyn.