Yr unig beth annisgwyl am Ryan Giggs yn cael ei enwi yn
Chwaraewr y Chwaraewyr y PFA am y Flwyddyn ym mis Ebrill 2009 oedd
ei bod wedi cymryd cyhyd iddo ennill y wobr anrhydeddus
yma.
Wedi'r cyfan, roedd wedi ennill gwobrau unigol eraill dirifedi -
gan gynnwys gwobr Chwaraewr Ifanc y PFA ddwywaith yn ystod ei yrfa
gynnar - heb sôn am fwy o anrhydeddau tîm nag unrhyw chwaraewr
arall dros Fanceinion Unedig yn holl hanes disglair y clwb.
Ryan yw'r chwaraewr sydd wedi ymddangos y nifer mwyaf o weithiau
i Fanceinion Unedig; rhagorodd ar record Syr Bobby Charlton o 758 o
ymddangosiadau ar y noson pryd helpodd y Cochion i ennill trydedd
buddugoliaeth yng Nghwpan Ewrop - ail Giggs - ym Moscow ar 21 Mai
2008.
Ef hefyd yw'r unig chwaraewr i fod wedi sgorio ym mhob un o
dymhorau'r Uwch Gynghrair; daliodd ei afael ar y record hynod hon
gyda foli yng ngêm gyntaf y tymor i Fanceinion Unedig yn erbyn
Newcastle ym mis Awst 2010.
Er hynny, efallai na fyddai dwy droed y chwaraewr disglair hwn wedi
cyffwrdd erioed â chae gwyrdd Old Trafford oni bai am ymyrraeth Syr
Alex Ferguson. Roedd Giggs, a aned yng Nghaerdydd, yn mynychu Ysgol
Ragoriaeth Dinas Manceinion yn ei arddegau cynnar ond aeth Syr Alex
ar ymweliad personol â'i dŷ ar ddiwrnod ei ben blwydd yn 14 oed ac
roedd Ryan ar ben ei ddigon yn cael cyfle i arwyddo i'w ffefrynnau
pan oedd yn blentyn.
Trodd Ryan yn broffesiynol ym Manceinion Unedig ym mis Tachwedd
1990 a chwaraeodd yn y gynghrair am y tro cyntaf, yn yr Adran
Gyntaf fel roedd yn cael ei galw bryd hynny, yn erbyn Everton yn
Old Trafford ar 2 Mawrth 1991, fel eilydd i Denis Irwin. Profodd ei
gêm gyntaf yn y gynghrair yn 1991/92 yn achlysur cofiadwy hefyd
oherwydd ar y diwrnod hwnnw y sgoriodd ei gôl gyntaf erioed dros y
tîm (er bod hynny ar ffurf adlamiad anferth oddi ar Colin Hendry)
mewn buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Dinas Manceinion.
Cafodd Giggs ei dlws cyntaf ar lefel hŷn ym mis Tachwedd 1991
wrth i Fanceinion Unedig drechu Red Star Belgrade yn rownd derfynol
Uwch Gwpan Ewrop - daeth Ryan ar y cae yn lle Lee Martin. Enillodd
ei ail fedal fel enillydd bum mis yn ddiweddarach wrth i'r Cochion
drechu Nottingham Forest yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair. Y
tymor canlynol, sef 1992/93, enillodd Giggs a Manceinion Unedig
deitl cyntaf erioed yr Uwch Gynghrair.
Roedd Ryan yn aelod allweddol o'r garfan a enillodd y dwbl
ddwywaith, yn 1993/94 ac yn 1995/96, cyn mynd gam ymhellach yn
1998/99 ac ychwanegu Cwpan Ewrop at Gwpan yr FA a thlws yr Uwch
Gynghrair. Ymhlith ei gyfraniadau at yr ymgyrch i gipio'r trebl
roedd gôl unigol gwbl ragorol i ennill y gêm y bu'n rhaid ei
hailchwarae yn rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA yn erbyn Arsenal yn
Villa Park. Mae'r gôl hon yn cael ei chyfrif fel un o goliau gorau
Manceinion Unedig erioed.
Dathlodd Ryan 10 mlynedd yn Old Trafford gyda gêm dysteb yn
erbyn Celtic yn 2001/02. Flwyddyn yn ddiweddarach sgoriodd ei
100fed gôl yn ei yrfa yn y gêm gyfartal, 2-2, yn erbyn Chelsea yn
Stamford Bridge ac ef oedd yr ail chwaraewr yn unig i chwarae 700 o
gemau dros Fanceinion Unedig pan helpodd y Cochion i fuddugoliaeth
ddramatig o 1-0 yn erbyn Lerpwl yn Anfield ym mis Mawrth 2007.
Ddeufis yn ddiweddarach, enillodd deitl y gynghrair am y nawfed
tro, gan drechu'r record o wyth medal pencampwriaeth oedd gan gewri
Lerpwl, sef Phil Neal ac Alan Hansen.
Er mwyn gallu dal ati i chwarae dros ei glwb ar y lefel uchaf,
penderfynodd Ryan ymddeol o chwarae pêl droed rhyngwladol dros
Gymru ym mis Mehefin 2007, ar ôl 64 o gemau a 12 o goliau. Ym mis
Hydref 2007, ymestynnodd ei gytundeb gyda Manceinion Unedig tan fis
Mehefin 2009.
Ym mis Rhagfyr 2007 cyrhaeddodd ddwy garreg filltir arbennig -
derbyniodd Ryan OBE (Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) am ei
wasanaethau i bêl droed a sgoriodd ei 100fed gôl yn y gynghrair yn
y fuddugoliaeth gartref o 4-0 yn erbyn Derby County.
Coronodd Ryan dymor epig 2007/08, ei 18fed yn aelod o dîm cyntaf
Manceinion Unedig, drwy sgorio ail gôl y Cochion mewn buddugoliaeth
ar ddiwrnod olaf y gynghrair yn erbyn Wigan, a thrwy sgorio'r gic
gosb dyngedfennol honno yn y ciciau o'r smotyn yn rownd derfynol
Cynghrair y Pencampwyr.
Parhaodd gyrfa Giggs i ffynnu yn ystod 2008/09 wrth iddo
fabwysiadu safle mwy canolog yng nghanol y cae neu'n agos at y prif
ymosodwr wrth i'r Cochion ddal gafael unwaith eto ar y teitl.
Yn ystod 2009/10, cafodd ei ddefnyddio yn bennaf ar yr asgell, yn
ei hen safle, ac roedd Ryan yn un o berfformwyr mwyaf cyson y
Cochion tan fis Chwefror, pan dorrodd ei fraich dde mewn tacl yn
erbyn Steve Sidwell o Aston Villa. Collodd bump wythnos o bêl
droed. Gorfododd yr anaf Giggs i fethu gemau Ewropeaidd allweddol,
a hefyd rownd derfynol Cwpan Carling, ond dychwelodd ddiwedd mis
Mawrth i sbarduno ymgyrch ddiflino (ond aflwyddiannus yn y pen
draw) Manceinion Unedig am bedwerydd teitl yn
olynol.
Er na chafodd ychwanegu at ei gasgliad o fedalau yn ystod 2009/10,
roedd llawer i'w ddathlu i Giggs ar lefel bersonol. Cafodd ei
ddewis yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC - ar 30
Tachwedd, y diwrnod ar ôl ei ben blwydd yn 36 oed - ac ychydig
wythnosau'n ddiweddarach cafodd ei gontract ei ymestyn am flwyddyn
arall gan y Cochion.
Cyrhaeddodd Giggs garreg filltir arall yn ystod ei dymor
diweddaraf, wrth iddo ragori ar record ymddangosiadau cynghrair
Charlton dros Fanceinion Unedig drwy chwarae ei 607fed gêm yn erbyn
Lerpwl ym mis Mawrth 2011.
Roedd eisoes wedi sicrhau cytundeb blwyddyn arall ac nid rhyw
ewyllys da sentimental ar ran Syr Alex oedd hyn: er gwaetha'i
oedran roedd y chwaraewr hwn yn dal i roi perfformiadau allweddol
yng nghanol y cae ac ar yr asgell i'w reolwr. Drwy gipio'r teitl yn
2010/11 roedd Giggs wedi ennill cyfanswm o 12: mae'n record gwbl
anhygoel!
Daw cynnwys y bywgraffiad hwn o wefan swyddogol Clwb Pêl Droed
Manceinion Unedig.