Gwireddodd Sam ei breuddwyd o ymuno â Byddin Prydain yn 2003.
Roedd yn lansio ac yn gweithredu dronau modern a oedd yn hedfan
uwch ben maes y frwydr yn ne Irac wrth gadw gwyliadwraeth. Ond ar
Fai 15, 2006, cafodd anafiadau difrifol pan rwygodd shrapnel miniog
ei choes dde a'i chefn wrth i filwriaethwyr danio mwy na 30 o
rowndiau o fortarau ar ganolfan ei chatrawd hi yn Al Amara. Bu bron
iddi waedu i farwolaeth cyn i wasanaeth argyfwng achub ei bywyd.
Cafodd ei hedfan i Ysbyty Selly Oak yn Birmingham ar gyfer
llawdriniaeth bellach.
Ond, er gwaethaf pob disgwyl, mae Samantha wedi gwella'n
rhyfeddol. Daeth tîm y merched yn seithfed yn Ewrop mewn twrnament
diweddar.
Dywedodd Anthony Hughes o Chwaraeon Anabledd Cymru: "O'r funud y
dechreuodd Sam ar raglen Pêl Foli ChAC, manteisiodd ar bob cyfle
yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a gyda thîm y Dreigiau
Celtaidd. Sylwyd arni'n fuan iawn gan brif hyfforddwr Prydain Fawr
a chafodd wahoddiad i ymarfer yn Roehampton - canolfan
hyfforddi'r garfan Pêl Foli Yn Eistedd. Mae ei rhinweddau personol
yn arbennig iawn. Mae hi'n ddeinamig ac yn llawn brwdfrydedd, yn
gystadleuydd i'r carn. Mae'n cynrychioli popeth y mae Cymru'n
sefyll drosto."