Mae Thomas wedi bod yn chwarae hoci er pan mae'n 12 oed. Ar ôl
chwarae dros Gymru ar bob lefel, o dan 16 i lefel hŷn, mae hi
bellach yn aelod o dîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd
Llundain 2012.
Ar ôl astudio am radd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol
Exeter, cododd y chwaraewr canol cae/blaenwr ei phac i fynd i
chwarae hoci yn Rotterdam. Mae hi bellach yn ei hôl yn y DU yn
hyfforddi yn Bisham Abbey, ble mae holl hyfforddiant sgwad PF yn
cael ei gynnal.
Pan gystadlodd Thomas yn Beijing, hi oedd y drydedd ferch erioed
o Gymru i gynyrchioli Prydain Fawr yn chwarae hoci mewn Gemau
Olympaidd.
Rhagor o wybodaeth am Sarah Thomas yma.