Clwb: Clwb Leander
Cwch: Sgwad Sgwlio'r Merched
Yn ystod Cyfres Cwpan y Byd yn 2011, rasiodd Vicky yn senglau
sgwlio'r merched ym Munich gan orffen yn 9fed. Yn Lucerne,
symudodd i wythawd y merched a gorffennodd yn 4ydd.
Yn Nhreialon Rhwyfo Hŷn y Timau yn PF yn 2011, a gynhaliwyd ar
16-17 Ebrill yn Eton/Dorney, daeth Victoria yn 6ed yn senglau
sgwlio'r
merched.
Ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd yn 2010 ar Lyn Karapiro yn
Seland Newydd, daeth Vicky a'i chriw yn wythawd y merched yn
4ydd.
Yng Nghyfres Cwpan y Byd yn 2011, rasiodd Vicky yn wythawd y
merched, gan ennill yr aur yn Bled, yr arian ym Munich a'r efydd yn
Lucerne. Roedd hwn yn dymor addawol i wythawd y merched a
oedd wedi dangos cysondeb drwy gydol cyfres Cwpan y Byd.
Hi yw "Cawr Chwaraeon" cyntaf PF i ennill medal. Ymunodd â
Rhaglen Start Tîm Rhwyfo PF ym mis Tachwedd 2007 ac mae wedi gwneud
cynnydd aruthrol yn ei rhwyfo ers
hynny.
Gwisgodd Vicky fest PF am y tro cyntaf yn 2009 a gyda
pherfformiad cwbl eithriadol enillodd yr aur yn wythawd y merched
ym Mhencampwriaethau D23 y Byd yn 2009 yn Racice - aur cyntaf
erioed PF yn y dosbarth hwn.
Arferai Vicky fod yn neidiwr ceffylau lled-broffesiynol a
gwnaeth rywfaint o fodelu hefyd yn ei blwyddyn fwlch yn
2006. Mae hi bellach yn astudio am Ddiploma mewn Rhagoriaeth
Chwaraeon ac mae'n hyfforddwr ffitrwydd a phersonol
cymwys.