Cantacantme Gwrth - Gyffnriau
Rhaglen ar gyfer athletwyr gan UK Gwrth - Gyffnriau yw
100%me, yn ceisio cynyddu'r ddealltwriaeth o chwaraeon heb
gyffuriau ymhlith y gymuned chwaraeon yn gyffredinol drwy ddarparu
gwybodaeth safonol, berthnasol am ymatal rhag cymryd cyffuriau a
hybu agweddau a gwerthoedd positif ymhlith dynion a merched y DG
sydd wedi cystadlu'n llwyddiannus mewn chwaraeon heb gyffuriau.
Cystadlu a pherfformio hyd eithaf eich gallu - dyna beth mae
chwaraeon yn ei olygu. Os oes raid i athletwyr ddefnyddio sylweddau
sydd wedi'u gwahardd neu ddulliau o wella eu perfformiad yna maent
yn eu twyllo eu hunain a'u cydathletwyr.
- 100% Cred;
- 100% Penderfyniad;
- 100% Ymroddiad;
- 100% Parch;
- 100% Ymrwymiad;
- 100% Gwybodaeth;
Dyma'r nodweddion sy'n perthyn i ddynion a merched y byd
chwaraeon sy'n ymroi i gymryd rhan mewn chwaraeon heb gymryd
cyffuriau. Mae'r athletwyr hyn yn gwybod sut beth yw ennill heb
gyffuriau oherwydd mae ganddynt hyder ynddynt eu hunain ac yn eu
paratoadau ar gyfer cystadlaethau.
Cyflwynir y neges 100%me drwy gyfrwng rhwydwaith o diwtoriaid
sydd wedi'u hachredu ac sydd wedi derbyn hyfforddiant drwy gyfrwng
UK gwrth - Gyffnriau ac, yng Nghymru, mae gennym rwydwaith o 33 o
diwtoriaid i ledaenu'r neges ar hyn o bryd. Yr amcan yw cyflwyno'r
neges 100%me i athletwyr, athrawon, rhieni a hyfforddwyr fel eu
bod:
- yn ymwybodol o bwysigrwydd peidio â chymryd cyffuriau;
- yn cael gwybod ble i gael hyd i wybodaeth am gyffuriau mewn
chwaraeon;
- yn gallu adnabod sylweddau a dulliau gwahareddedig.
Os hoffech wybodaeth bellach neu os oes gennych ddiddordeb mewn
mynychu sesiynau diweddaru 100%me yn y dyfodol, neu hyfforddi i fod
yn diwtor eich hun, cysylltwch â Sue Maughan yng Nghyngor Chwaraeon
Cymru ar 02920 338278 neu drwy e-bost, sue.maughan@chwaraeoncymru.org.uk
I fynd i wefan 100%me, cliciwch yma
I weld y Bas Data Rhyngwladol o Wybodaeth am Gyffuriau, cliciwch yma.