Ein tîm elitaidd
Rydym yn gweithio â Cyrff Rheoli
Chwaraeon Cymru a Phrydain i helpu i baratoi athletwyr presennol
Cymru, yn ogystal ag athletwyr y dyfodol, i gystadlu'n llwyddiannus
ar y llwyfan rhyngwladol.
Rydym yn darparu, neu'n cynorthwyo i ddarparu, yr arbenigedd
perfformiad uchel angenrheidiol i chwaraeon ac athletwyr yng
Nghymru.
Drwy osod yr athletwyr a'u hyfforddw(y)r wrth galon popeth rydym yn
ei wneud, mae ein swyddogion yn gweithio er mwyn darparu rhaglenni
cefnogi addas mewn perthynas â chyllid, hyfforddi, cefnogaeth
dechnegol, meddygaeth chwaraeon, ffisioleg, seicoleg, dadansoddi
perfformiad, maeth, ffordd o fyw'n perfformio yn ogystal â chryfder
a siapio.
Mae amcan yr Adran Perfformiad a
Rhagoriaeth yn glir - gweithio gyda phartneriaid i helpu i ganfod,
meithrin, datblygu a chefnogi athletwyr talentog Cymru i gyrraedd
eu potensial yn eu dewis gamp.
Felly, pa gefnogaeth a gynigir?
Mae ein tîm medrus iawn yn darparu
cefnogaeth a chyngor i athletwyr Cymru mewn 3 phrif faes:
Partneriaid Gwyddoniaeth Chwaraeon
Cliciwch yma am ragor o
wybodaeth am y partneriaethau rydym ni wedi'u ffurfio i'n helpu ni
i greu cenedl o bencampwyr