Cefnogaeth Gwyddoniaeth Chwaraeon
Mae ein tîm Gwyddoniaeth Chwaraeon hynod fedrus a phrofiadol yn
cynnig cefnogaeth i'r athletwyr ar gynlluniau Elite Cymru a Thalent
Cymru i roi sylw i ddisgyblaethau gwyddonol, gyda phob un yn
canolbwyntio ar wella perfformiad yr
athletwr.
Mae cefnogaeth gwyddoniaeth chwaraeon ffisiolegol yn cynnwys
strategaethau i sicrhau perfformiad optimwm ar adegau penodol yn
ystod eich cylch hyfforddi.
Gellir cynnal profion ffitrwydd naill ai yn y labordy
gwyddoniaeth chwaraeon neu yn y maes, yn unol ag anghenion y
gamp.
Gellir rhagnodi ymarfer drwy gydweithredu gyda chi a'ch
hyfforddwr, a monitro ymateb eich corff i hyfforddiant a
chystadlaethau'n rheolaidd.
Mae monitro'n cynnwys adborth gwrthrychol gennych chi a monitro
amrywiadau o dderbyn samplau gwaed ac iwrin yn y Labordy
Gwyddoniaeth Chwaraeon.
Seicoleg
Mae'r ddisgyblaeth hon yn canolbwyntio ar y ffactorau meddyliol
sy'n gallu effeithio ar berfformiad. Gall ein Seicolegwyr Chwaraeon
helpu i wella perfformiad wrth ymarfer ac wrth gystadlu drwy
ddatblygu'r canlynol:
- Canolbwyntio
- Cymhelliant
- Hyder
- Y gallu i ymdopi
- Rheolaeth emosiynol
Y sgiliau a ddysgir fel rheol yw:
- Ymlacio
- Delweddaeth
- Paratoi ar gyfer cystadlu
- Adolygu hyfforddiant a pherfformiad
- Gosod nodau
- Y gallu i ganolbwyntio
- Rheoli hunan-siarad
Defnyddir cyfleusterau eraill i geisio gwella gallu'r corff i
ymdopi â hinsawdd anodd, altitiwd a theithio ymhell.
Ar ben hynny, gall Seicolegwyr Chwaraeon helpu gyda gwneud
penderfyniadau, newid gyrfa a chyfathrebu. Mae Seicolegwyr
Chwaraeon yn gweithio mewn ffyrdd amrywiol er mwyn datblygu'r
sgiliau uchod. Mae'r rhain yn cynnwys addysg gweithdy,
ymgynghoriadau unigol, gweithio gyda hyfforddwyr ac arsylwi
hyfforddiant a chystadlu.
Biomecaneg
Mae biomecaneg yn cynnwys dadansoddi symudiadau a thechnegau
dynol. O ran gwella perfformiad, dylech ddadansoddi eich techneg
wrth hyfforddi a chystadlu oherwydd gall eich helpu i ganfod
gwendidau, atal anafiadau a gwella effeithlonrwydd mewn symudiadau
chwaraeon-benodol.
Cryfder a Siapio:
Mae dau brif ffocws yn perthyn i gryfder a siapio.
- Gwella Perfformiad - drwy ddatblygu cryfder y cyhyrau, dygnedd
cryfder, pwer (cyflymdra ac ystwythder) a symudiadau
chwaraeon-benodol (swyddogaethol).
- Atal Anafiadau - drwy gyfrwng asesiadau seiliedig ar
hyfforddiant ystum, sefydlogrwydd, cryfder craidd a symudiadau
penodol (cysylltiedig â chwaraeon).
Gellir gweithredu'r ddau ffactor yma ar y cyd â'ch hyfforddwr
neu â staff Gwyddoniaeth Chwaraeon a Meddygaeth Chwaraeon eraill,
ar gyfer trefn ymarfer gyflawn.
Maeth
Mae cefnogaeth maeth yn cynnwys cyngor ynghylch beth sydd orau
i'w yfed a'i fwyta i wella eich perfformiad. Gellir cael cyngor
cyffredinol am faeth wrth hyfforddi a chystadlu yn ychwanegol at
gyngor penodol am ofynion maeth dyddiol ar gyfer eich anghenion
hyfforddi a chystadlu unigol.
Gellir cael cyngor hefyd ynghylch ennill neu golli pwysau a
sicrhau pwysau priodol mewn chwaraeon ag iddynt gategorïau
pwysau.
Dadansoddi Perfformiad:
Mae dadansoddi perfformiad yn defnyddio amrywiaeth o feddalwedd
cyfrifiadurol a thechnoleg fideo i asesu perfformiad.
Mae ffactorau fel tactegau, techneg, symudiad a chyfradd
gweithio wrth hyfforddi neu gystadlu'n gallu cael ei asesu. Mae hyn
yn darparu gwybodaeth werthfawr i hyfforddwyr, i'w galluogi i
ddefnyddio hyfforddiant a thactegau i sicrhau cymaint o lwyddiant
ag y bo modd.