Cyngor ynghylch Ffordd o Fyw'n Perfformio

Nid dim ond sgil neu dalent yr athletwr sy'n gyfrifol am lwyddiant mewn chwaraeon. Mae ein rhaglen ffordd o fyw'n perfformio wedi'i chynllunio'n benodol i helpu pob athletwr i greu'r amgylchedd unigryw angenrheidiol ar gyfer eu llwyddiant.                               

Sut rydym ni'n helpu

Mae Ffordd o Fyw'n Perfformio yn wasanaeth cefnogi arbenigol sydd wedi'i greu'n benodol i helpu pob athletwr i greu'r amgylchedd unigryw sydd ei angen i lwyddo.

Er mwyn i athletwyr elitaidd gynnal ffordd o fyw'n perfformio, mae'n rhaid iddynt gynnwys sawl agwedd ar eu bywyd ochr yn ochr â rhaglen hyfforddi a chystadlu ddwys.                                     

Nod ein cynghorydd achredol yw cefnogi'r athletwyr drwy feithrin ynddynt y sgiliau angenrheidiol i ymdopi â gofynion arbennig bod yn berfformiwr elitaidd, ac i baratoi'n well ar gyfer bywyd wedi chwaraeon.              

Cyflwynir y rhaglen Ffordd o Fyw'n Perfformio yn bennaf i athletwyr sy'n byw yng Nghymru drwy gyfrwng Llwybr y DG ac Élite Cymru drwy gyfrwng cynghorydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Y dull yw gweithio'n agos â hyfforddwyr ac arbenigwyr cefnogi fel rhan o dîm integredig i leihau unrhyw bryderon, gwrthdaro ac aflonyddwch posibl. Mae'r rhain i gyd yn gallu bod yn niweidiol i berfformiad.

Gall y cyngor a gynigir fod mewn sesiwn un-i-un neu ar ffurf gweithdy i sgwad. Gall yr olaf gynnwys hyfforddwyr a rhieni, i addysgu a chyflwyno gwybodaeth i rwydwaith cefnogi'r athletwr.

Mae cyfrinachedd yn hollbwysig wrth ffurfio perthynas rhwng cynghorydd ac athletwr a dim os yw'r athletwr wedi rhoi caniatâd i hynny fydd yr wybodaeth sydd wedi'i datgelu'n cael ei rhannu.  

Ymhlith yr enghreifftiau o'r gefnogaeth a gynigir gan y rhaglen Ffordd o Fyw'n Perfformio mae:

  • Cynllunio Integredig - mae hyn o gymorth i athletwyr gyfuno gofynion eu camp â dyheadau personol eraill;
  • Cyfarwyddyd Addysgol - yn darparu cyngor ar gyfer yr athletwyr hynny sy'n dymuno dal ati gyda'u hastudiaethau neu gefnogaeth i'r rhai sy'n astudio ar hyn o bryd;
  • Cynllunio Gyrfa - yn helpu athletwr i ddarganfod ei gryfderau a'i ddiddordebau ei hun a chyfateb y rhain gyda dyheadau gyrfaol posibl;
  • Cefnogaeth mewn cyfnod o newid - ar gyfer yr athletwyr hynny sydd wedi cael anaf, sy'n adleoli neu'n tynnu at ddiwedd eu gyrfa. Mae'r rhaglen yn darparu cyfarwyddyd ynghylch opsiynau yn y dyfodol;
  • Rhaglenni Hyfforddi a Datblygu - ar gyfer grwpiau o athletwyr neu athletwyr unigol mewn amrywiaeth eang o bynciau, ee rheoli amser, cyllidebu a chyllid, delio â'r cyfryngau, nawdd;
  • Cefnogaeth barhaus - gall cyn-aelodau Llwybr y DG ac Élite Cymru ddefnyddio'r rhaglen Ffordd o Fyw'n Perfformio am gyfnod o hyd at 6-12 mis wedi i gyllid y Loteri ddod i ben.

 

DOWNLOADS