Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer
Mae ein hadran Meddygaeth Chwaraeon yn cyflwyno gwasanaeth o
safon byd, yn cynnwys meddygaeth chwaraeon, ffisiotherapi a thylino
(therapi meinwe meddal) i'r amrywiaeth eang o chwaraeon a gyllidir
gan Chwaraeon y DG neu Chwaraeon Cymru.
Meddygaeth Chwaraeon
Mae Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer yn cynnwys gofal meddygol i
anaf a salwch mewn chwaraeon, ar gyfer cyfranogwyr elitaidd a
hamdden o bob oed.
Mae gan ein ffisegwyr chwaraeon brofiad a gwybodaeth helaeth am
ofynion penodol gwahanol gampau ac maent yn deall anghenion
athletwyr sydd wedi cael anaf neu sy'n sâl i wella a dychwelyd at
eu lefel gymryd rhan flaenorol cyn gynted ag y bo modd ac mor
ddiogel ag y bo modd. Mae gan y ffisegwyr chwaraeon amrywiaeth eang
o sgiliau clinigol, gwybodaeth am archwiliadau priodol i sicrhau
diagnosis manwl gywir a hefyd ymwybyddiaeth o'r technegau a'r
protocols trin diweddaraf (yn cynnwys therapi brechiadau).
Yn Athrofa Chwaraeon Cymru, mae Dr Mark Ridgewell yn Ffisegydd
Chwaraeon gyda mwy na 18 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag
amrywiaeth eang o chwaraeon elitaidd, ar lefel genedlaethol a
rhyngwladol.
Mae'n gweithio'n agosâ'r ffisiotherapyddion a'r adran
gwyddoniaeth chwaraeon er mwyn darparu i athletwyr Cymru'r
gwasanaeth Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer o'r safon
uchaf.
Ers sefydlu Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer fel arbenigedd yn
2006, bydd y galw am ddarparu hyfforddiant o'r safon uchaf i
feddygon dan hyfforddiant yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd
nesaf.
Ffisiotherapi
Mae dau amcan i waith y ffisiotherapyddion - yn RHAGWEITHIOL
maent yn gweithio tuag at atal anafiadau ac yn ADWEITHIOL maent yn
asesu ac yn trin anafiadau, gan ddarparu gwasanaeth adfer i'r
athletwyr hynny nes eu bod yn gallu cymryd rhan lawn unwaith eto yn
eu hymarfer a'u cystadlaethau.
O ran atal anafiadau, mae Athrofa Chwaraeon Cymru'n cynnig
proffilio cyhyrysgerbydol deinamig yn benodol i bob camp /
athletwr, gan ddefnyddio dadansoddiad fideo a meddalwedd yn
galluogi adborth mwy penodol. Mae'r proffilio'n arwain at ganfod
'dolennau gwan' neu fannau posibl a allai anafu'n rhwydd, neu ddim
ond yn gwella patrymau symud er mwyn datblygu sgiliau'n
well.
Mae'r ffisiotherapyddion yn gweithio'n agos ag athletwyr a
hyfforddwyr a hyfforddwyr cryfder a siapio er mwyn sicrhau eu bod
mewn gwell sefyllfa i osgoi anafiadau dro ar ôl tro - gan eu helpu
i adnabod yr arwyddion a chyflwyno ymarferion er mwyn rhoi sylw i'r
broblem yn gynharach. Mae rhoi sylw i faterion fel hyn yn sicrhau
perfformiadau optimwm ac yn helpu i osgoi anafiadau.
Mae ffisiotherapyddion Athrofa Chwaraeon Cymru'n ymateb yn
gyflym ac yn effeithlon wedi anaf, ac yn gweithio'n agos â'n tîm o
arbenigwyr er mwyn sicrhau bod yr athletwr yn cael ailddechrau
ymarfer a chystadlu cyn gynted ag y bo
modd.
Nid yw ffisiotherapydd yn gweithio ar ei ben ei hun; yn hytrach
mae'n defnyddio arbenigedd yr hyfforddwr, yr hyfforddwr cryfder a
siapio a'r meddyg chwaraeon er mwyn cyflawni hyn. Gellir trin
athletwyr mewn clinig trin a champfa adfer, neu mewn lleoliad
ymarfer a / neu gystadlu h.y. ochr y trac, y pwll neu'r
cwrt.
Tylino mewn Chwaraeon
Mae Tylino mewn Chwaraeon yn derm a ddefnyddir gyda'r
ddisgyblaeth o ddefnyddio tylino er budd penodol i gyfranogwyr
chwaraeon.
Mae'n cynnwys rheoli, trin ac adfer y meinwe meddal yn y corff,
ee y cyhyrau, y ligamentau a'r gewynnau. Mae tylino mewn chwaraeon
yn cael ei addasu i anghenion pob unigolyn er mwyn cael
effaith gadarnhaol ar allu rhywun i berfformio.
O'i ddefnyddio'n gywir, gall y tylino chwarae rhan bwysig mewn
helpu i adfer wedi ymarfer a chystadlu, a pharatoi ar eu cyfer.
Gall helpu hefyd gyda chyn-adfer ac atal unrhyw dueddiad i
anafu.
Waeth beth yw'r gamp, yr oedran neu'r rhyw, bydd gan dylino
rywbeth i'w gynnig i bawb, ar y cyd ag agweddau eraill ar raglen
ffitrwydd/adfer/cryfder a
siapio.
Mae ymarferwyr tylino Chwaraeon Cymru'n cyflawni technegau
targed ac effeithiol gyda meinwe meddal ac yn gweithio mewn ffordd
ryngddigyblaethol gyda ffisiotherapyddion a meddygon chwaraeon.
Maent yn chwarae rhan bwysig yn amgylchedd aml-ddisgyblaeth
Chwaraeon Cymru sy'n ceisio darparu'r gefnogaeth gorau posibl i
athletwyr
unigol.
Mae'r dull integredig o weithredu a fabwysiedir yma yn Athrofa
Chwaraeon Cymru'n darparu llwyfan cadarn i athletwyr i'w cefnogi eu
hunain a datblygu hyd eithaf eu
gallu.